Amdanom ni


Mae Teacher Support Cymru yn rhan o Teacher Support Network.

Elusen unigryw yw Teacher Support Network sy’n ymroi i ddarparu cefnogaeth hanfodol i athrawon cymwys. Ar hyd a lled y DU rydym yn defnyddio’n arbenigedd i wella lles personol ac effeithiolrwydd athrawon o hyfforddiant hyd at ôl-ymddeoliad ac mewn rhai achosion y gweithlu ysgol-gyfan.

Yn 2002 sefydlwyd Teacher Support Cymru i ddarparu cymorth penodol i athrawon yng Nghymru. Lansiwyd y gwasanaeth dwyieithog Teacher Support Line Cymru ac y mae’n parhau i gynorthwyo cannoedd o athrawon yng Nghymru bob blwyddyn.

Gan ddefnyddio’n arbenigedd penodol a’n gwybodaeth o’r sector addysg buom yn cynorthwyo i sefydlu Link to Life (LTL Connect), canolfan gyswllt yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, hyfforddiant a chynghori i Teacher Support Network a Teacher Support Cymru.

Mae canolfan LTL Connect a Teacher Support Cymru yn rhannu swyddfeydd.

Cliciwch yma i ddarllen ein polisi preifatrwydd.

Cymru Ein Cefnogwyr:

Mae Teacher Support Cymru yn dibynnu ar nifer o gefnogwyr:

  • ASCL Cymru
  • NASUWT Cymru
  • NAHT Cymru 
  • ALT Cymru
  • NUT Cymru
  • GTCW
  • UCAC
  • HSE
  • Governors Wales






 

SITE TOOLS