From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

BLWYDDYN NEWYDD, DECHRAU NEWYDD

By Joe Williams

I lawer ohonom, mae'r flwyddyn newydd yn amser i ddechrau o'r newydd. Yn dilyn pythefnos o orwneud, does dim gwell cyfle i ddechrau gyda llechen lân a cheisio cael gwared ag arferion drwg a gwneud newidiadau positif i'ch bywyd. Gallwn wneud dechrau 2009 yn gyfle i wella ein lles; yn gorfforol ac yn feddyliol.

Yr wythnos hon, lansiodd y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon (Teacher Support Network) ein Prawf Stress ar-lein newydd. Teclyn asesu yw hwn sydd wedi ei gynllunio i'ch helpu i adnabod y materion stress a lles sydd yn eich effeithio chi ac i'ch helpu i ganfod ffyrdd o wella eich lles yn eich bywyd gwaith a chartref.

Pam na gymerwch chi'r prawf stress i ddechrau'r flwyddyn newydd a'ch helpu i adnabod lle gall fod angen newid yn eich bywyd? Cwblhewch y tair adran er mwyn cael canlyniad ar unwaith ynghyd â ffeithlenni defnyddiol ac awgrymiadau ar y camau gorau i chi i'w cymryd.

Gallwch ddod o hyd i'r asesiad yma.

Gall y Flwyddyn Newydd hefyd fod yn gyfle perffaith i chi geisio un o'n rhaglenni hyfforddi ar-lein a derbyn hyfforddiant personol, rheolaidd gan berson proffesiynol drwy gyfrwng e-bost; yn ddienw os mai dyna'ch dymuniad. Gallwch ddewis allan o wyth gwahanol thema, sydd wedi eu cynllunio i helpu i ganolbwyntio'r rhaglenni. Mae bron unrhyw agwedd o fywyd athro y gofynnwyd i ni ddarparu cymorth ar ei gyfer wedi ei gynnwys o fewn y themâu yma. Gall y rhaglen Iechyd a Ffitrwydd fod o ddiddordeb arbennig ar yr adeg yma o'r flwyddyn.

Gallwch ddod o hyd i'r rhaglenni hyfforddiant yma.

Mae Teacher Support Cymru yn gyson ddiweddaru ein Canolfan Wybodaeth ar-lein. P'un a yw'n gyngor ar ddatblygiadau diweddar mewn ysgolion neu'n fynegbyst at sefydliadau newydd, gallwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n ei geisio amdano yma. Mae ffeithlenni defnyddiol yn cynnwys:



Source information:
Posted in: amdanom ni,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/Blwyddyn-Newydd-Dechrau-Newydd.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/Blwyddyn-Newydd-Dechrau-Newydd-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!