Cefnogwch NiMae Teacher Support Cymru yn elusen gofrestredig. I barhau â’n gwaith hanfodol, rydym angen eich help. Rydym angen codi dros £100,000 dros y 12 mis nesaf er mwyn parhau i ddarparu ein gwasanaethau. Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu, gan gynnwys:
Partneriaid corfforaethol; fyddech chi'n ystyried sefydlu partneriaeth o fudd cilyddol a fydd yn cyd-fynd â’ch amcanion CSR? Fyddech chi’n ystyried cyfleoedd noddi, marchnata yn gysylltiedig â’r achos, GAYE neu roddion mewn nwyddau? Os byddech chi, ffoniwch ni ar 01443 827 600 neu e-bostiwch heddiw. Cymynroddion Mae Cymynroddion yn ein helpu ni i dalu am 1 o bob 8 sesiwn cwnsela.Os ydych yn rhannu ein hymrwymiad i helpu athrawon, efallai yr hoffech ystyried cofio am Teacher Support Cymru yn eich ewyllys. Bydd eich cymynrodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn helpu i sicrhau fod help ar gael pryd bynnag y bydd cydweithwyr a’u teuluoedd angen cyngor a chymorth. Gyda chymorth cyfreithiwr, mae ysgrifennu ewyllys neu greu cymynrodd newydd er mwyn cynnwys rhodd i Teacher Support Cymru, yn broses hawdd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Stephen White, Teacher Support Network, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BE o 020 7554 6234 Gwirfoddoli Mae Teacher Support Cymru yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu â’r gwaith o roi’r gair ar led am ein gwasanaethau, codi arian a’n helpu ni i ddatblygu gwasanaethau newydd. gwaith achos: asesu pobl yn eich ardal sydd wedi ceisio am grant neu fenthyciad gan Teacher Support Cymru. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma. rhoi’r gair ar led: Dosbarthu deunydd hyrwyddo/gwybodaeth neu fynychu cynadleddau. Helpwch ni i ledaenu’r gair am ein gwasanaethau drwy gynnig copïau o’n ’posteri an taflenni i gydweithwyr. o 01443 827600. adborth: Gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’n gwaith a’n gwasanaethau drwy gymryd rhan mewn arolygon ar lein neu drwy fynychu grwpiau adborth rhanbarthol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. codi arian: hoffech chi drefnu digwyddiad i godi arian i Teacher Support Cymru? Ffoniwch 01443 827600 am ragor o wybodaeth. I gydnabod y ffaith bod Cymru yn fwy a mwy dwyieithog, am y tro cyntaf yn hanes Teacher Support Cymru, bydd gennym wefan a gwasanaeth ar-lein hollol ddwyieithog. Rydym yn gofyn am eich amynedd wrth i ni orffen y cyfieithiadau i gyd. |
Sign up to receive free, personalised, online coaching from our support professionals. START HERE! | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
gofynnwch gwestiwn
Rhowch gynnig ar hyfforddiant ar-lein.
Gofynnwch gwestiwn a chael ateb gan un o'n hyfforddwyr proffesiynol.
search our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.