Wrth syllu drwy'r ffenest ar yr awyr lwyd a'r heolydd gwlyb gall fod yn anodd credu ein bod ar drothwy gwyliau'r haf.
Wedi tri thymor hir o ddysgu, rhieni sydd yn gyfrifol am ddisgyblion am ychydig o wythnosau sanctaidd - gan adael i'w hathrawon ddod o hyd i beth amser ychwanegol i'w hunain; amser y gellid ei neilltuo tuag at eu hiechyd, eu diddordebau, cyfeillion neu deuluoedd.
Efallai nad oes gan Gymru'r hinsawdd i gynnig chwe wythnos o dorheulo di-dor, ond i'r rhai ohonom sydd yn gweithio yn y ‘stafell ddosbarth, gallwn gysegru'r amser yma i'n hunain.
Wedi slafio drwy gydol blwyddyn ysgol hir, mae'n bryd i sicrhau eich bod yn cysegru digon o amser yn gofalu am eich lle eich hun. Er ei fod wrth gwrs yn bwysig i edrych ar eich ôl eich hun drwy gydol y flwyddyn, mae gwyliau'r haf yn cynnig y cyfle gorau i chi ailwefrio'r batris, anghofio am straen a stress yr ysgol a chanolbwyntio ar eich hunan.
Efallai nad yw gwyliau'r haf yn anfeidrol o hir- ac mae gyda chi ddigon i'w wneud cyn y flwyddyn ysgol newydd - ond pam na geisiwch chi gymryd y cyngor sydd ar gael ar-lein yn ein ffeithlenni yn ystod yr wythnosau nesaf ar ein Gwybodfan.
Gwnewch y mwyaf o'ch gwyliau ac adnewyddwch eich hun yn barod am ddechrau'r flwyddyn academaidd gyda ‘blwyddyn newydd, dechrau newydd'. Dewch i wybod am cydbwysedd gwaith a bywyd a sut i'w gyflawni.
Beth am ddiddordeb chwaraeon newydd? Canfyddwch sut mae rheoli eich iechyd drwy weithgaredd corfforol - neu rywbeth syml fel buddiannau cerdded.
Yn bennaf oll, cymerwch amser i ymlacio a dadflino!