|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. TEACHER SUPPORT CYMRU YN RHOI CROESO I DRAFODAETH AR AROLYGIADAU YSGOL MWY CEFNOGOLMae Teacher Support Cymru (TSC) wedi dweud ei fod yn croesawu trafodaeth bellach ar arolygiadau ysgol mwy cefnogol. Daw'r cyhoeddiad wrth i Estyn lansio fframwaith arolygu newydd, fydd yn canolbwyntio ar roi mwy o gefnogaeth a monitro ar gyfer darparwyr dysgu yng Nghymru. "Gall arolygiadau, neu hyd yn oed y disgwyliad o gael arolygiad fod yn ffynhonnell sylweddol o stres i athrawon" meddai Julian Stanley, Prif Weithredwr TSC. "Byddai unrhyw ymdrechion i wneud dulliau arolygu yn llai o straen yn derbyn croeso mawr." Os oes angen cyngor arnoch wrth ymdrin ag arolygiadau ac fe hoffech sgwrsio gyda rhywun diduedd yna rhowch alwad i ni am gyngor cyfrinachol ar 0800 085 5088. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Source information: Posted in: amdanom ni, Article page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/Estyn.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/Estyn-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |