|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. GWEITHDAI NEWYDD I ATHRAWON YNG NGHYMRU I FYND I’R AFAEL â’R LLWYTH GWAITH PARHAUS
By Rhia Stankovic-Jones
|
Roedd 13.8 y cant o’r galwadau a dderbyniom ynglŷn ag amodau gwaith yn ymwneud yn benodol â llwyth gwaith, sydd yn cynnwys y broblem eang o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac oriau gwaith hirfaith.
|
Gall y gofynion a roddir ar athrawon heddiw fod yn anferth. Er y dylid gorffen eu holl waith o fewn oriau ysgol, bydd llawer yn cymryd eu gwaith adref yn rheolaidd. Mae nifer fawr o’r miloedd o athrawon sydd yn dod i gyswllt â ni bob blwyddyn yn dweud wrthym ei fod yn teimlo fel nad yw’r diwrnod ysgol byth yn gorffen!
Materion mewn perthynas ag amodau gwaith yw’r trydydd achos mwyaf tebygol fydd yn peri athrawon i ffonio Llinell Gymorth Ddwyieithog TSC yn gyson yn ystod y tair blynedd diwethaf a doedd 2008 ddim yn eithriad i’r rheol yma.
Bu galwadau mewn perthynas ag amodau gwaith yn gyfrifol am 18.3 y cant o’r holl alwadau a wnaed i’r elusen hyd yma. Mae’r categori yma’n cynnwys problemau gyda llwythau gwaith, materion cyfreithiol ac ymholiadau ynglŷn â pherfformiad a thâl.
Roedd 13.8 y cant o’r galwadau a dderbyniom ynglŷn ag amodau gwaith yn ymwneud yn benodol â llwyth gwaith, sydd yn cynnwys y broblem eang o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac oriau gwaith hirfaith.
Hyd yma eleni mae 39.7 y cant o alwadau wedi bod ynglŷn â rheoli perthnasau gydag oedolion eraill yn y gwaith - mae hyn yn cynnwys perthnasau gyda rheolwyr, cydweithwyr, rhieni, cynorthwywyr dosbarth, llywodraethwyr a diffyg cefnogaeth gan fentor.
O ganlyniad i’r ffigurau yma, teimlom yn Teacher Support Cymru ei fod yn bryd i gymryd golwg ar y broblem mewn mwy o fanylder ac i geisio a’i wneud yn haws i athrawon yng Nghymru reoli’r materion yma.
Ar ddechrau tymor yr hydref, lansiodd Teacher Support Cymru ddau weithdy newydd, gyda’r ddau ar gael i athrawon yng Nghymru, o’r enw ‘Llwyth Gwaith a Lles’ a ‘Cyfathrebau’. Gellir llunio’r gweithdai yma i sesiwn ar ddiwedd y diwrnod ysgol neu eu harwain ar ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd neu ddiwrnod hyfforddiant.
Mae’r gweithdy cyntaf yn cymryd golwg ar ba ffyrdd gall athrawon eu cymryd i reoli llwyth gwaith ac amddiffyn eu lles eu hunain. Mae’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: llwyth gwaith, cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, iechyd a lles. Drwy ganiatáu i athrawon gymryd amser i edrych ar ba ffyrdd y gallant eu cymryd i reoli a gwella’r meysydd hyn, rydym yn gobeithio bydd athrawon yn dysgu i ymdopi’n fwy effeithiol gydag ymrwymiadau gwaith a’r gofynion a wneir ar eu bywydau personol.
Mae’r gweithdy Cyfathrebu yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfathrebu’n gywir. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn cymryd golwg ar nifer o agweddau o’r pwnc gan gynnwys gwrando gweithgar, rhwystrau wrth gyfathrebu a sut y gallwn oresgyn y rhwystrau hyn er mwyn dod i ddeall ein gilydd.
Os ydych yn athro yng Nghymru a bod gyda chi ddiddordeb i sicrhau lle ar uno’r gweithdai hyn neu yr hoffech wybodaeth bellach ar brisoedd ac argaeledd y gweithdai, byddwch cystal â dod i gyswllt â Rhia Stankovic-Jones ar 01443 827686 neu drwy e-bost ar rhia.stankovic-jones@teacersupport.info.
Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth ar y gweithdai yma ar ein gwefan, sef:www.teachersupport.info/wales