Starting Out CymruStarting Out Cymru yw ein gwasanaeth hyfforddi rhad ac am ddim, ar-lein ar gyfer ANG ac hyfforddwyr yng Nghymru.
Bydd y gwasanaeth yn eich darparu gyda gwefan hollol ddiogel lle y gallwch mewnlogio i gyfrif personol a chyfrinachol. Byddwch yn medru defnyddio ystod eang o adnoddau penodol i’ch cefnogi chi mewn materion proffesiynol a phersonol. Ar-ôl cofrestri, byddech mewn cysylltiad ag un o’n mentorau profiadol a chymwys. Bydd y mentor yn darparu cefnogaeth mewn unrhyw bwnc yr hoffech drafod. Darllennwch mwy am y wahaniaethau rhwng hyfforddwyr a mentorau. Bydd cefnogaeth yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol trwy ddeialog cyfrinachol ac unigol, yn ogystal â gwybodaeth, adnoddau ac hefyd taflenni ffeithiol yn trafod amrywiaeth o bynciau sy’n bwysig i chi. Pan rydych yn gofyn cwestiwn, bydd eich Mentor yn ateb o fewn 48 awr. Os mai ymateb ar frys sydd angen, mae Teacher Support Line Cymru ar gael 24 awr y dydd ar 0800 855 088, ac nid oes unrhyw gost. Os ydych yn cael trafferth i glywed, galwch gan defnyddio y gwasanaeth Talk Type ar 18001-08000 855 088.
Mae gan ein Gwybodfan dros 1000 o daflenni ffeithiol (mae’r mwyafrif yn Saesneg ond bydd taflenni Cymaeg ar gael yn fuan). Sut i ddefnyddio’r system Mae’n bosib defnyddio Starting Out Cymru mewn dau ffordd: 1. Gan glicio ar yr opsiwn Gofynnwch un cwestiwn, mae’n bosib profi’r gwasanaeth heb gofrestri’n llawn. Byddwch yn derbyn ateb gan un o’n gweithwyr proffesiynol o fewn 48 awr.
2. Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach yn rheolaidd, cliciwch ar Ymuno ac yna
dilynwch y cyfarwyddiadau. Wedi i chi gofrestru, byddwch yn cael eich
partneri gydag un o’n hyfforddwyr. Bydd y mentor yn cysylltu gyda chi i
weithio gyda chi ar unrhyw fater proffesiynol neu bersonol. Linciau defnyddiol Mae rhai o’r cynghorion gorau i hyfforddwyr ac ANG ( NQTs) i’w cael oddi wrth eraill sydd wedi gwynebu yr un materion eu hunain. Os oes gennych unrhyw gyngor neu wybodaeth pwysig a fyddech yn hoffi ei gyfleu i hyfforddwyr presennol neu y dyfodol a fyddech cystal a’i dodi ar ein safle we. Fel cymhelliad ychwanegol ‘rydym yn cynnig gwobr ARIANNOL o £50 i’r tri cynnig gorau ac hefyd £20 i’r ail oreuon. Fe ddylai y cynghorion i’r hyfforddwyr fod ond 1 brawddeg ond rhaid gwneud yn siwr nad ydynt yn fwy na 200 o eiriau.I adnabyddu'r ffaith bod Cymru yn fwy a fwy dwyieithog, am y tro cyntaf yn hanes Teacher Support Cymru bydd gennym wefan a gwasanaeth ar lein hollol ddwyieithog. Rydym yn gofyn am eich amynedd wrth i ni orffen y cyfieithiadau i gyd. |
Tanysgrifiwch am ein e-gylchlythyr rheolaidd, am ddim ac sydd wedi ymrwymo i les a iechyd athrawon. DECHRAU YMA! | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
gofynnwch gwestiwn
Rhowch gynnig ar hyfforddiant ar-lein.
Gofynnwch gwestiwn a chael ateb gan un o'n hyfforddwyr proffesiynol.
search our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.