From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

130 O FLYNYDDOEDD O GEFNOGI ATHRAWON


Ysgrifenna Patrick Nash, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru:

"Mae'n wirioneddol anhygoel bod cydymdeimlad athrawon tuag at eu cyd-athrawon yn parhau i fodoli 130 o flynyddoedd ar ôl creu'r elusen a elwir bellach yn Teacher Support Cymru.

"O'i dyddiau cynnar fel y Gronfa Les a Phlant Amddifad (B&O), erbyn hyn mae elusen Teacher Support Cymru yn anelu at wella effeithiolrwydd proffesiynol a lles personol athrawon, o'u cyfnod dan hyfforddiant hyd at eu hymddeoliad.

"Yn ôl ym 1877, roedd amcanion B&O fel y'u nodwyd gan ei riant-gorff, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Elfennol (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon bellach), yn canolbwyntio ar gymorth ariannol i athrawon a oedd yn wynebu caledi. Roedd ymgorfforiad cyntaf y B&O a dderbyniwyd gan y gynhadledd yn Llundain yn nodi y dylai'r gronfa:

‘annog yr ysbryd o hunan-gymorth a chynildeb yn erbyn amseroedd o salwch a thrychineb ... i wneud darpariaeth ar gyfer damweiniau [ac ar gyfer] y rhai a ddisgynnodd wrth ymyl y ffordd ... i roi cymorth a chynhaliaeth ar adeg o salwch, adfyd a thristwch, ar gyfer y rhai nad oedd neb arall i'w helpu; ac i'r teuluoedd mewn profedigaeth a adawyd ar ôl.'

"Er bod Teacher Support Cymru yn parhau i gynnig cymorth ariannol ar ffurf grantiau, benthyciadau a chyngor ariannol, mae'r elusen wedi ehangu ei gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion y proffesiwn modern yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a'r Unol Daleithiau.

"Ym mis Tachwedd 2006, bu inni lansio elusen ar wahân ar gyfer y gweithlu addysg bellach, uwch ac oedolion, o'r enw'r Rhwydwaith Cymorth Colegau a Phrifysgolion.

"Ar gyfer athrawon yng Nghymru, sefydlwyd Teacher Support Cymru yn 2002, ac erbyn hyn mae'n darparu gwasanaethau hyfforddi a chynghori dros ebost a ffôn i gannoedd o athrawon bob blwyddyn.

"Rydym yn gweithio gydag athrawon i ddatrys problemau anodd yn eu bywydau proffesiynol neu bersonol. Mae rhai yn ffonio neu'n ebostio ynghylch materion difrifol megis ymosodiadau treisgar neu gyhuddiadau maleisus, tra bod pobl eraill yn cysylltu â ni ynghylch cyfleoedd datblygu proffesiynol neu bersonol, i gael cyngor ariannol neu gynghorion cyfweliad.

"Diolch i'r arbenigedd a'r wybodaeth o'r sector addysg yr ydym wedi eu cronni yn ystod y 130 o flynyddoedd diwethaf, bu i ni helpu i sefydlu Link to Life (LtL Connect), sef canolfan gyswllt yn Rhondda Cynon Taf sydd bellach yn darparu ein gwasanaethau hyfforddi a chynghori i athrawon.

"Lansiwyd y ganolfan gyswllt hon, y gyntaf o'i bath yn y byd, ym mis Chwefror 2006 gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

"Mae 2007 yn nodi blwyddyn bwysig i Teacher Support Cymru gan fod yr elusen wedi dechrau ar ymchwil sylweddol i les athrawon a fydd yn sail i'n gwasanaethau yn y dyfodol. Dyma'r ymchwil gyntaf o'i bath yng Nghymru; bydd yn edrych ar effeithiolrwydd gwasanaethau cymorth athrawon a'u lles yn yr hinsawdd addysg presennol.

"Y cam nesaf ar gyfer Teacher Support Cymru o ran diwallu anghenion athrawon yw lansio dull hyfforddi dwyieithog ar ebost: Teacher Support Online Cymru. I'r perwyl hwn, mae'r elusen wedi cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

"Mae lansiad TSO Cymru yn ategu gwasanaeth newydd i athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru, a lansiwyd yn gynharach yn y mis. Mae Starting Out Cymru yn wasanaeth mentora dwyieithog rhad ac am ddim ar y we sydd wedi ei gynllunio'n arbennig ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso, a bydd yn darparu cymorth cyfrinachol ar unrhyw agwedd ar eu datblygiad personol a phroffesiynol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

"Ymchwiliodd Teacher Support Cymru i'r ystod o faterion y mae athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso yn eu hwynebu ledled Cymru er mwyn diwallu anghenion penodol athrawon newydd. Roedd canfyddiadau allweddol yr ymchwil yn cynnwys y ffaith bod unigedd a chostau teithio yn gallu bod yn broblem yn ardaloedd gwledig y gogledd, a bod dod o hyd i swydd barhaol yn gallu bod yn anodd i athrawon cynradd yn Abertawe ac yng Nghaerdydd.

"Bydd Starting Out Cymru yn ategu blynyddoedd o lwyddiant Teacher Support Cymru yn y gwaith o gefnogi athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd, ac yn helpu athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso i ddatblygu sgiliau allweddol a'r hyder a fydd yn gymorth iddynt gydol eu bywyd gwaith."

Mae Cerys Mair, sy'n athrawes gyflenwi mewn ysgolion ledled sir y Fflint, sir Ddinbych a sir Conwy, yn credu bod angen gwasanaeth cymorth cyfrinachol. Dywedodd:

"Mae athrawon heddiw o dan fwy o bwysau nag erioed oherwydd y gofynion sydd arnynt yn eu gwaith a'r holl gyfrifoldebau sydd arnynt mewn diwrnod gwaith yn y dosbarth a'r tu allan. Teacher Support Cymru yw'r unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio'n benodol i helpu athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd, o'u cyfnod hyfforddi hyd at eu hymddeoliad."

I gael rhagor o wybodaeth am Teacher Support Cymru, ewch i'n gwefan (a gaiff ei diweddaru yn fuan): www.teachersupport.info neu ffoniwch 01443 827600.

Os hoffech wybodaeth neu gyngor dwyieithog, annibynnol a chyfrinachol ffoniwch: 08000 855 088 neu ewch i www.teachersupport.info i gael gwasanaeth hyfforddi (ar gael yn Gymraeg yn fuan).

Os mai athro ydych a'ch bod am gymryd rhan yn ein hymchwil cysylltwch â ni drwy ffonio 01443 827623, bydd mwy o wybodaeth am yr ymchwil ar gael yn fuan ar ein gwefan ar ei newydd wedd.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/130-o-flynyddoedd-o-gefnogi-athrawon.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/130-o-flynyddoedd-o-gefnogi-athrawon-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!