50 y cant y flwyddyn yn llai i’w wario ar adeiladau ysgolion Cymru

by Victoria Bamber

Corbis-42-17108376_thumb_1.jpg

Mae rhaglen adeiladu ysgolion Llywodraeth Cymru yn mynd i gael i gwtogi a bydd 50 y cant yn llai yn cael i wario bob blwyddyn o ganlyniad i “doriadau ariannol llym”.

Gofynnwyd i’r rhan fwyaf o gynghorau i ail-ddanfon eu cynigion, yn dilyn y cyhoeddiad fod yna ddiffyg ariannu o gannoedd o filiynau o bunnoedd, yn ôl BBC Cymru.

Ar ôl y toriadau, fe gredir y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ariannu 50 y cant o’r project adfywio yn hytrach na 30 y cant, gyda’r gwariant wedi ei ymestyn dros gyfnod hirach.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wrth gynhadledd yr NASUWT yn Abertawe fod Llywodraeth Cymru’n gweithredu yn erbyn cefndir o “doriadau ariannol llym iawn”, oedd yn cynnwys “gostyngiad o 40 y cant yn y cyllid cyfalaf mewn termau arian parod am dair blynedd”.

“Dydy hyn ddim yn mynd i’n rhwystro ni rhag buddsoddi mewn adeiladu ysgolion, ond mae’n dangos y math o gyfyngiadau sy’n rhaid i ni weithredu oddi mewn iddynt,” dywedodd.

Dywedodd Chris Llewelyn, o Gym deithas Llyworaeth Leol Cymru ei fod yn gyfnod “heriol iawn” ac ychwanegodd, mewn rhai achosion, "bydd yn rhaid i ysgolion edrych ar ailwampio yn hytrach nac ailadeiladu".

Er iddo ddatgan ei fod yn deall sefyllfa ariannol anodd Llywodraeth Cymru, dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) Cymru, ei fod yn siomedig gyda chyn lleied o effaith fydd y project adnewyddu’n ei gael yn dilyn y toriadau.

Ychwanegodd, "Yn amlwg, rydym yn croesawu y caiff arian ei wario, ond does dim amheuaeth na fydd effaith yr hyn a allwn ei ddisgwyl mor radical â’r hyn a obeithiwyd amdano ar ddechrau’r project, o ystyried y fath wahaniaeth mewn gwariant rhwng yr hyn a gynigiwyd yn wreiddiol a’r hyn sydd i’w dderbyn."

"Gall fod dim amheuaeth nawr, taw rhaglen o drwsio a defnyddio’r hyn sy’ ‘da ni sydd yn cael ei gyflenwi ac na fydd hyn yn mynd digon pell, ac fe all, mewn rhai amgylchiadau, fod yn gam gwag, gan y byddai’n costi mwy yn y pen draw ac yn syrthio’n fyr o’r nod i gyflenwi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer y genhedlaeth yma o blant ysgol."

Dywedodd Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Angela Burns: "Mae’n drueni bod gweinidogion wedi gwastraffu cymaint o arian yn ystod cyfnodau economaidd da ac wedi methu nawr i fanteisio ar ffynonellau ariannu eraill oed ar gael i wneud ein hadeiladau ysgolion yn ffit ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dymunwn ei gwneud hi’n glir fod cyllid Llywodraeth Cymru’n cael ei dorri gan Lywodraeth y DU gan £1.95bn mewn termau iawn erbyn 2014/15.

Dywedodd un arall: "Mae cadeiriau wedi torri, gwe cnoi ar y carped a llwydni ar y waliau yn gwneud iddo ymddangos fel na pe bai athrawon yn poeni a dyw e’ ddim yn eu hannog i edrych ar ôl eu hamgylchedd."

Er mwyn darllen adroddiad llawn yr Arolwg Amgylchedd Ysgol 2010, cliciwch yma.





 

SITE TOOLS