From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

ADRODDIAD 2009 YN DANGOS POBLOGRWYDD LLINELL GYMORTH DDWYIEITHOG


Rhyddhawyd Adrodd Teacher Support Cymru 2009 yr wythnos hon gyda ffigurau am y flwyddyn yn dangos bod athrawon o Gymru yn dangos mwy o hoffter am eu Llinell Gymorth na gweddill y DU.

Cynhaliwyd 19 y cant o ddefnydd y gwasanaeth yng Nghymru llynedd drwy gyfrwng y Llinell Gymorth ddwyieithog, am ddim , cyfrinachol, 24/7. Mae hyn i’w gymharu â gweddill Grŵp yr elusen, sydd yn cynnwys Lloegr, Teacher Support Scotland a’r Rhwydwaith Cymorth i Golegau a Phrifysgolion, lle cafodd saith y cant o ryngweithiadau gydag athrawon a phobl addysg broffesiynol eraill eu cynnal dros y ffôn.

Er gwaethaf poblogrwydd y Llinell Gymorth, tyfodd gwasanaethau cymorth eraill yng Nghymru mewn poblogrwydd hefyd, gyda’r defnydd o Ganolfan Wybodaeth dddwyieithog Teacher Support Cymru - sydd yn cynnwys dros 1,000 o ffeithlenni cyngor a gwybodaeth - cynnydd o 65 y cant ar y flwyddyn flaenorol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y gwelwyd cynnydd anferth yn y galw am wasanaethau ar draws Grŵp y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yn 2009, gyda chyfanswm y defnydd a wnaed o’r gwasanaeth yn codi gan 84 y cant.

Dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: “Tyfodd y galw am wasanaethau Teacher Support Cymru eto llynedd. Rydym yn falch iawn bod natur ddwyieithog ein gwasanaethau wedi gallu bod o gymorth i gynifer o athrawon ar hyd y wlad yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’r ffigurau’n ein hatgoffa o faint mwy o waith sydd i’w wneud.

“Bydd 2010 yn cynrychioli blwyddyn hanfodol ar gyfer yr elusen wrth i ni chwilio ymhellach i wella lles ein hathrawon yng Nghymru a denu’r nawdd sydd gymaint ei angen er mwyn sicrhau dyfodol hir-dymor Teacher Support Cymru.”



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Adroddiad-2009-yn-dangos-poblogrwydd-llinell-gymorth-ddwyieithog.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Adroddiad-2009-yn-dangos-poblogrwydd-llinell-gymorth-ddwyieithog-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!