Athrawon yn absennol am 60,000 o ddiwrnodau’r flwyddyn o ganlyniad i stresby Victoria Bamber
Yn ôl ffigurau sydd newydd gael eu rhyddhau, roedd athrawon yn absennol o’u gwaith am 60,000 o ddyddiau yng Nghymru o ganlyniad i stres yn ystod 2009-10. Datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, bod absenoldeb o ganlyniad i stres a gymerwyd gan staff dysgu wedi cynyddu gan 14 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Allan o 14 awdurdod lleol a roddodd ystadegau, gwelwyd cynnydd mewn naw ohonynt rhwng 2009-10, gyda chyfanswm y nifer o ddyddiau a gollwyd o ganlyniad i stress yn codi o 20,968 i 24,079, yn ôl Wales Online. Rhoddwyd y bai ar y cynnydd mewn absenoldebau o ganlyniad i stress ar lwythau gwaith gormodol, yn ogystal ag amodau dysgu a gofynion newydd yn y dosbarth. Mae nifer o undebau addysgu wedi dweud gallai profion darllen a gwaelodlin newydd fod yn broblem fwy ar gyfer staff a’u lles yn y dyfodol. Dywedodd David Evans, Ysgrifenydd NUT Cymru, “Mae rhai ysgolion yn adrodd fod pwysau ychwanegol profion a mentrau newydd yn golygu bo athrawon yn dioddef wrth gael eu boddi gan waith papur sydd wedi eu rhwystro rhag dysgu.” Dywedodd Angela Burns, Llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg. “Mae straen a phwysau sy’n ddigon difrifol i gadw un athro adref am un diwrnod yn haeddu sylw. Mae colli degau o filoedd o ddyddiau gan lawer mwy o athrawon yn fater brys y dylai gael ei adnabod gan y Gweinidog Addysg a’i hymdrin â hi fel mater o flaenoriaeth.” “Mae’r lefel yma o stress yn anhygoel o wael i iechyd y sawl sy’n dioddef ohono, a dydy colli diwrnodau gwaith ddim yn llesol i ddisgyblion chwaith ac mae’r gost i ysgolion hefyd yn fater o bryder anferth.” Adroddod Teacher Support Cymru llynedd bod ysgolion yng Nghymru wedi bod yn cyfrif cost absenoldeb afiechyd o ganlyniad i stress ymhlith ei staff ac athrawon. Cyfrifodd cyngor Conwy ei fod wedi gwario £1,015,649 ar absenoldebau, yn ogystal â’r gost o dalu gweithwyr dros dro a thaliadau goramser i gyflenwi am staff absennol. Wrth siarad ar y pryd, dywedodd Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: "Mae’n destun gofid bod cost ac effaith yr absenoldebau hyn hyd yn oed yn fwy na’r gwerth ariannol a gafodd ei grybwyll yn ei awgrymu. Gall absenoldeb un athro gael effaith anfesuradwy nid yn unig ar gydweithwyr sydd yn gorfod ysgwyddo’u llwyth gwaith, ond hefyd y disgyblion sydd yn cael eu dysgu. Mae’n anochel bydd safonau addysg yn disgyn." Os ydych chi’n teimlo dan straen, neu’n bryderus fo eich llwyth gwaith yn cael effaith ar eich iechyd a lles cyffredinol a’ch bod angen sgwrsio â rhywun, rhowch ganiad i’n Llinell Gymorth gyfrinachol ar 08000 855 088. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA! | ||
|
| |||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.