|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.
ATHRAWON YNG NGHYMRU I DDOD O HYD I ARWYDDION O SALWCH MEDDWL
Ar gyfartaledd, mae tua 300 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, cyfradd sydd yn llai na’r Alban ond yn uwch na Lloegr.
Teacher Support Cymru
Adroddwyd gan y BBC yr wythnos diwethaf y gallai athrawon yng Nghymru gael eu hyfforddi cyn bo hir i i ddod o hyd i arwyddion o broblemau iechyd meddwl fel rhan o gynllun i leihau cyfradd hunanladdiad Cymru. Gallai staff sydd yn gweithio mewn ysgolion gael eu hyfforddi ar sut mae adnabod arwyddion cynnar problemau iechyd meddwl.
Yn ôl adroddiadau diweddar, bydd Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio’r cyllid presennol a ffynonellau newydd o nawdd i fuddsoddi £10m mewn i gynllun gwaith pum mlynedd.
Mae’r rhaglen ‘Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl’ a noddir yn rhannol gan y Lotri Genedlaethol, wedi bod yn rhedeg mewn rhai rhannau o Gymru ond bydd nawr yn cael ei ledaenu ar draws y wlad. Erbyn mis Mawrth 2009, bydd 75 o hyfforddwyr yn gweithio gydag athrawon i sicrhau y gallant adnabod arwyddion trallod a phwyntio tuag at help arbenigol.
Dywedodd y Llywodraeth fod bron i dri chwarter o’r rhai hynny sydd yn lladd eu hunain yng Nghymru yn anhysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn cyn iddyn nhw farw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart bod angen newid y diwylliant sydd yn amgylchynu materion iechyd meddwl "er mwyn gallu adnabod yr arwyddion, a rhoi cymorth a chefnogaeth yn gynt ".
"Mae pob hunanladdiad yn drasiedi sydd yn golygu colli bywyd ac aelod o deulu,” dywedodd Ms Hart.
Mae’r cynllun yn seiliedig ar strategaeth o Awstralia, sydd wedi cael ei gyflwyno i athrawon yn yr Alban.
Dywedodd Gareth Jones, swyddog polisi'r elusen iechyd meddwl, Mind Cymru, nad bwriad y project oedd troi pobl mewn i arbenigwyr ar iechyd meddwl. "Mae’n help, yn yr un ffordd â Chymorth Cyntaf."
Ychwanegodd Jones fod pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd gofyn unrhyw un mewn trallod a oedden nhw wedi meddwl am hunanladdiad. "Drwy ofyn y cwestiwn hynny rych chi’n rhoi caniatâd i bobl sôn amdano. Yn yr un ffordd nad ydyn ni’n hoff o ofyn amdano, dyw pobl ddim yn hoffi siarad amdano chwaith."
Ar gyfartaledd, mae tua 300 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, cyfradd sydd yn llai na’r Alban ond yn uwch na Lloegr.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o’r materion yma, mae’n bosibl gall rhai o’n ffeithlenni ar y materion hyn fod o ddefnydd i chi;
Source information:
Posted in:
newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Athrawon-yng.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Athrawon-yng-printer.php
Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!
|