Beirniadaeth Hallt o’r Llywodraeth gan yr Undebau am gael eu symiau’n anghywir
Mae undebau athrawon wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn hallt wedi iddi honni bod disgyblion yng Nghymru yn cael mwy o arian na phlant yn Lloegr. Condemniwyd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL) a chan yr NASUWT, ar ôl iddi awgrymu bod disgyblion yng Nghymru yn derbyn dau y cant yn fwy o gyllid addysg na'u cyfoedion yn Lloegr, yn ôl Wales Online. Mae'r ystadegau'n dangos gwariant cyfartalog ar addysg o £1,485 y pen o'r boblogaeth, sef swm sy''n uwch na'r £1,424 y pen yn Lloegr ac sydd ond ychydig bach yn llai na'r cyfartaledd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae arbenigwyr addysg wedi rhybuddio bod barnu gwariant ar addysg yn ôl fesul y pen o'r boblogaeth, yn hytrach na fesul bob disgybl yn hollol gamarweiniol. Wrth gyfrifo'r gwariant yn ôl pob disgybl, datgelir gagendor gwariant rhwng Cymru a Lloegr sy'n fwy na £600. Honnodd Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru, fod y niferoedd yn cuddio difrifoldeb y tanwario a geir mewn addysg yng Nghymru. Dywedodd "Ceir hen ddywediad ynglŷn â chelwyddau, celwyddau melltigedig ac Ystadegau. Ond mae'n hollol glir fod yna fwlch ariannu o £604 i bob disgybl rhwng Lloegr a Chymru na ellir ei guddio, waeth bynnag faint o ffidlan a wneir gyda'r ystadegau,". "Yn ffodus mae'r Gweinidog Addysg presennol wedi cydnabod hyn ac mae'n gweithio'n galed i gau'r blwch, yn wahanol i'w ragflaenwyr. Dyna'r ystadegyn pwysig ac rwy'n falch fod y gweinidog yn mynd i'r afael â hwn." Dywedodd Rex Phillips, Trefnydd yr NASUWT, hefyd nad oedd y ffigurau'n adlewyrchu reality ariannu disgyblion yng Nghymru. "Mae ffigurau'r ONS yn adlewyrchu'r ffaith syml bod mwy yn cael ei wario fesul poblogaeth ar addysg yng Nghymru nac yn Lloegr. Fodd bynnag, hynny fu'r achos erioed. Mae gan yr ystadegau hyn ar gyfer Cymru mwy i'w wneud â Fformiwla Barnett na'r swm mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar bob disgybl, a dyw hynny ddim yn newid y bwlch gwario o £600." Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Trysorlys yn casglu ei ddata mewn ffordd wahanol sy'n seiliedig ar fesul bob pen o' boblogaeth gan gymryd holl wariant addysg, addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion i ystyriaeth. Yng Nghymru, rydym yn gwahaniaethu rhwng gwariant ar addysg uwch, addysg bellach a chan yr awdurdod lleol ar ysgolion yn seiliedig ar ein niferoedd disgyblion ein hunain. Dyna pam mae ein ffigurau'n gwahaniaethu o'r rhai a gyflwynir gan y Trysorlys." Os am gael y newyddion a gwybodaeth addysg ddiweddaraf pam na wnewch chi danysgrifio i'n e-gylchlythyr neu Borthwr RSS am ddim. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | ||
|
| |||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
