|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.
BLWYDDYN NEWYDD, PERSON NEWYDD!
Rhowch gynnig ar ein Olwyn Lles
I nifer fawr ohonom, gall dechrau blwyddyn newydd fod yn gyfle gwych i wneud dechreuad newydd. Yn dilyn nifer o wythnosau o gael gormodedd o fins peis a gwydrau o win sbeis, daw Ionawr ac addunedau lu i geisio cael llechen lân a cheisio cael gwared ar arferion drwg, gan wneud newidiadau positif i’ch bywyd.
Ond sut allwn ni sicrhau na fydd ein haddunedau yn cael eu rhoi i’r naill ochr, a bod y flwyddyn newydd yn dod â gwelliant gwirioneddol i’n lles; yn feddyliol a chorfforol?
Gallech roi cynnig ar ein Olwyn lles ar-lein i helpu i’ch creu yn ‘berson newydd’. Cydbwysedd yw hanfod bywyd, ac mae’r Olwyn wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i gymryd golwg ar ystod eang o feysydd yn eich bywyd. Drwy wella’r cydbwysedd rhyngddyn nhw, gallwch wella’ch lles.
Mae’n gyfle i chi adlewyrchu ar gyflwr eich lles ac i adnabod meysydd o’ch bywyd yr hoffech eu newid. Mae hefyd yn rhyngweithiol, felly bydd angen i chi allbrintio templed Olwyn Llesi’w gwblhau wrth i chi wneud yr ymarferion ar-lein.
Ceir chwe adran yn ymwneud ag ystod gyfan o destunau. Peidiwch â phoeni! Dim ond ychydig o funudau'r un ddylen nhw gymryd. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau i chi i gwblhau'r ymarfer.
· Cliciwch yma i gael allbrint o’ch templed Olwyn Lles cyn i chi ddechrau. (Mae mewn fformat PDF.)
· Cliciwch yma i ddechrau’r Olwyn Lles.
Os taw un o’ch addunedau yw dod yn ffit yn 2010, fe allech feddwl am gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau heriol a helpu i gefnogi’r elusen ar yr un pryd. Mae gyda ni lefydd ar gael Marathon Virgin Llundain, Hanner Marathon Adidas Silverstone, Marathon Caeredin a Ras Gyfnewid yr Hagis Gwalltog. Canfyddwch sut allwch chi gymryd rhan.
Source information:
Posted in:
newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Blwyddyn-Newydd-Person-Newydd.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Blwyddyn-Newydd-Person-Newydd-printer.php
Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!
|