From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

CANFOD EICH CYDBWYSEDD GYDA’R DEWIN BYWYD-GWAITH

by Sally Baker

Bydd gŵyl y Nadolig yma cyn bo hir, ac mae croeso mawr i’r toriad sydd ar y gorwel wrth i ddiwedd y tymor nesáu. Wrth i’n meddyliau droi tuag at dartenni Nadolig a gwin â pherlysiau, dyma gyfle i chi gymryd hoe allan o’r gwaith ac i ymlacio gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Ond os ydych chi’n credu y byddwch yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gwaith i gefn y meddwl am bythefnos, gall ein harf Dewin Bywyd-Gwaith newydd eich helpu i ddod o hyd i gydbwysedd mewn bywyd a’i gadw o dan reolaeth.

Mae’r arf wedi ei ddylunio i roi asesiad i chi o’ch gofynion gwaith a’ch llwyth gwaith. Bydd yn eich helpu i ddod i’r afael â sut mae’r pethau hyn yn gysylltiedig â’ch personoliaeth, ffordd o weithio a’ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Nid asesiad seicometrig yw hwn, ond fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i adnabod materion o bwys ac i adlewyrchu ar eich amgylchiadau gwaith.

Cofiwch yn ei hun, dydy llwyth gwaith uchel ddim o reidrwydd yn arwydd o stres negyddol neu gyflwr lles gwael. Mae cymhelliad swydd a gweddu i’r swydd hefyd yn bwysig.

Mae’n arf rhyngweithiol, felly bydd angen i chi wneud allbrint o’r Daflen Waith Dewinol yn gyntaf ac yna’i ddefnyddio i gwblhau’r ymarferion ar-lein.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy a rhowch dro ar ein Dewin Bywyd Gwaith.

Unwaith i chi gwblhau’r Dewin Bywyd Gwaith bydd gyda chi gyfle i ddanfon eich canlyniadau yn uniongyrchol at ein Tîm Cymorth Ar-Lein ar gyfer cymorth ychwanegol, neu fe allwch alw ein hymgynghorwyr ar unrhyw adeg ac yn gwbl gyfrinachol. Rhowch alwad i ni ar 08000 855 088, mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Canfod-eich-cydbwysedd-gyda-r-Dewin-Bywyd-Gwaith.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Canfod-eich-cydbwysedd-gyda-r-Dewin-Bywyd-Gwaith-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!