From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

CEFNOGAETH GYMRAEG I ATHRAWON CYMRU!


Yn ddiweddar fe wnaeth Teacher Support Cymru, yr elusen genedlaethol sydd yn darparu gwasanaethau cefnogaeth am ddim er lles athrawon, ac i wella eu heffeithlonrwydd yn y gwaith, lansio gwasanaeth newydd ar-lein ar gyfer athrawon Cymraeg.

Mae’r gwasanaeth newydd - Teacher Support Online Cymru - yn darparu gwefan ddiogel lle mae athrawon yn mewngofnodi i gyfrif personol a chyfrinachol, lle maent yn gallu cael mynediad at wybodaeth, taflenni ffeithiau, ac anfon a derbyn e-byst i hyfforddwr personol, yn Gymraeg neu Saesneg.

Gan adlewyrchu’r twf yn y niferoedd sy’n siarad yr iaith ac mewn hunaniaeth Gymraeg ymhlith athrawon, cynhaliwyd y lansiad yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ar Gampws Rhydfelen/Garth Olwg, gan mai Ysgol Gyfun Rhydfelen oedd yr ysgol gyfun Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yn ne Cymru.

Mynychwyd y digwyddiad symbolaidd hwn gan nifer o gynrychiolwyr o’r byd addysg, ac roedd naws gyffrous iawn yno, a phawb wedi mwyhau'r gwin a’r lluniaeth Cymreig oedd ar gael!

Agorwyd yr achlysur gan Mr. Peter Griffiths, Prifathro Ysgol Gyfun Garth Olwg, a siaradodd am bwysigrwydd y fath gefnogaeth i athrawon, a chanmol Teacher Support Cymru am eu gwaith caled yn cefnogi athrawon, a’r fenter newydd hon.

Mae Teacher Support Cymru yn cyrraedd cannoedd o athrawon bob blwyddyn trwy’r llinell gymorth, sydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cwnsela, a chymorth cyfrinachol dros y ffôn. Ond ar ôl ymchwilio i anghenion penodol athrawon, darganfuwyd fod yn well gan athrawon gael mynediad at wasanaethau cefnogaeth ar-lein, gan gynnwys hyfforddiant trwy e-bost.

Gwahoddwyd yr Athro David Egan i’r llwyfan hefyd, a amlinellodd arwyddocâd y ffaith bod y fath wasanaeth ar gael yn y Gymraeg ar gyfer athrawon sydd yn siarad neu’n dysgu Cymraeg, er mwyn gwella cyfathrebu a lles athrawon Cymru yn y gweithle.

Mae hyn yn bwysig iawn, gan fod y mwyafrif o athrawon newydd yn ystyried eu hunain yn Gymry yn hytrach na Phrydeinwyr.

Yn ôl yr ystadegau blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Addysg Cyffredinol Cymru yn gynharach eleni, fe wnaeth 69.9% o athrawon sydd newydd gymhwyso gofrestru eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig, sy’n cyferbynnu â 37.4% o athrawon yn gyffredinol a ddynododd hynny. Hefyd, roedd twf yn y nifer a nododd eu bod nhw’n siarad Cymraeg. Mae'r rhain yn ffigurau calonogol iawn yn wyneb y ffaith bod nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion Cymraeg wedi cynyddu’n ddramatig iawn dros y pymtheng mlynedd diwethaf.

Felly, roedd lansiad Teacher Support Online Cymru yn cyfateb i’r symudiad yma ymysg athrawon a’r byd addysg. Roedd cyfle i bobl roi cynnig ar y gwasanaeth ar gyfrifiaduron. Dywedodd un athrawes:

“Mae’n bwysig i athrawon fel fi, sy’n siarad Cymraeg, ein bod ni’n cael mynediad parod at gefnogaeth drwy gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio i gyfathrebu’n naturiol yn ein bywydau bob dydd. Rydw i mor falch bod Teacher Support Cymru wedi sefydlu’r gwasanaeth hwn, a byddaf yn fwy parod i ddefnyddio’r wefan hon yn y dyfodol.”

Dyma’r tro cyntaf i’r fath wasanaeth gael ei gynnig yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Jessica Davies, Rheolwraig Cyfathrebu a Chodi Arian, Teacher Support Cymru:

“Drwy sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn darparu Teacher Support Online Cymru, rydym nid yn unig yn cydnabod ein heniaith a’n hunaniaeth ddiwylliannol, ond rydym hefyd yn galluogi athrawon sy’n siarad Cymraeg i drafod y materion sydd yn cael effaith ar eu lles mewn modd effeithiol a chyfforddus.”

Os hoffech chi siarad â rhywun yn gyfrinachol ac am ddim, ffoniwch Teacher Support Line Cymru ar 08000 855 088, neu ewch i’r wefan www.teachersupportcymru.info am fynediad at y gwasanaeth newydd uchod.

Jessica Davies, Rheolwraig Cyfathrebu a Chodi Arian Teacher Support Cymru.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cefnogaeth-Gymraeg-i-Athrawon-Cymru.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cefnogaeth-Gymraeg-i-Athrawon-Cymru-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!