|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.
CEFNOGAETH GYFRINACHOL AM DDIM PAN FYDD EI ANGEN ARNOCH
Galwch ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim ar 0800 085 5088 am gefnogaeth ynglŷn â'r ystod eang o faterion.
by Sally Baker
Mae cynghorwyr hyfforddedig Teacher Support Cymru ar gael i'ch cefnogi chi 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. Galwch ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim ar 0800 085 5088 am gefnogaeth ynglŷn â'r ystod eang o faterion.
Yn ystod y chwe mis diwethaf bu dros 24 y cant o'n galwadau yn ymwneud â ‘Materion Personol' gan gynnwys perthnasau a theulu. Dilynwyd hyn yn agos gan alwadau ynglŷn ag ‘Amodau Gwaith' ar 23 y cant, sydd yn cynnwys perfformiad a thâl, materion cyfreithiol a phwysau gwaith. Roedd ‘Galwadau ynglŷn â gyrfa' yn gyfrifol am 15.5 y cant, wedi'i ddilyn gan ‘Medrau Pobl' ar 13.8 y cant, gan gynnwys perthynas ag oedolion yn y gwaith, bwlio ac aflonyddu.
Mae ein cynghorwyr wrth law i gynnig cymorth emosiynol ynghyd â chyngor ymarferol gan gynnwys ein cynghorwyr arian arbenigol.
Yn ychwanegol i hyn mae gyda ni wefan sydd wedi ymrwymo at athrawon yng Nghymru lle gallwch ddod o hyd i ystod eang o wybodaeth gan gynnwys y newyddion diweddaraf a diweddariadau sydd yn effeithio ar y proffesiwn dysgu.
Mae gyda ni dros 1,300 o ffeithlenni ar gael, ynghyd â 400 arall yn y Gymraeg, sydd yn cynnig gwybodaeth ar ystod o bynciau. Teipiwch y geiriau allweddol mewn i flwch chwilio er mwyn dod o hyd i unrhyw ffeithlenni sy'n cyfateb. Gallwch roi tro arno drwy glicio yma neu yma am y Gymraeg.
Cynigir ein holl wasanaethau ffôn yn ddwyieithog ac mae pob un o'n gwasanaethau ar gael am ddim. Rydym ni yma i gefnogi pob athro, o bobl dan hyfforddiant, wrth i chi wneud cynnydd yn eich gyrfa, yr holl ffordd hyd at y rhai hynny sydd wedi ymddeol. Rhowch alwad i ni unrhyw bryd yn gyfrinachol ar 0800 085 5088.
Helpwch ni i ledu'r gair
Mae cannoedd o athrawon wedi cael cefnogaeth gennym yn ystod y profiadau gawson nhw yn eu gyrfaoedd dysgu ac fe hoffem gyrraedd llawer mwy. Rydym yn ddibynnol ar ein cefnogwyr i ledu'r gair a sôn wrth bobl eraill am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig am ddim.
Os ydych chi'n athro yng Nghymru, pam na soniwch amdanom ni wrth eich cydweithwyr a lawr lwytho un o'n posteri ar gyfer eich ‘stafell athrawon neu ofyn am ddeunyddiau am ddim ar gyfer eich ysgol:
- Cliciwch yma i archebu deunyddiau hyrwyddo (rholiwch lawr i waelod y dudalen ar gyfer yr adnoddau sydd ar gael gan Teacher Support Cymru yn Saesneg a Chymraeg)
- Cliciwch yma i lawr lwytho poster yn y Gymraeg
Gallwch ledu'r gair hefyd flaenyrru'r e-newyddlythyr yma i unrhyw un o'ch cydweithwyr all fod â diddordeb neu ei annog ef neu hi i danysgrifio i'n cylchlythyr sydd am ddim ar ein gwefan, yma.
Source information:
Posted in:
newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cefnogaeth-gyfrinachol-am-ddim-pan-fydd-ei-angen-arnoch.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cefnogaeth-gyfrinachol-am-ddim-pan-fydd-ei-angen-arnoch-printer.php
Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!
|