Cefnogaeth gyfrinachol am ddim pan fydd ei angen arnochGalwch ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim ar 0800 085 5088 am gefnogaeth ynglŷn â'r ystod eang o faterion.by Sally Baker
Mae cynghorwyr hyfforddedig Teacher Support Cymru ar gael i'ch cefnogi chi 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. Galwch ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim ar 0800 085 5088 am gefnogaeth ynglŷn â'r ystod eang o faterion. Yn ystod y chwe mis diwethaf bu dros 24 y cant o'n galwadau yn ymwneud â ‘Materion Personol' gan gynnwys perthnasau a theulu. Dilynwyd hyn yn agos gan alwadau ynglŷn ag ‘Amodau Gwaith' ar 23 y cant, sydd yn cynnwys perfformiad a thâl, materion cyfreithiol a phwysau gwaith. Roedd ‘Galwadau ynglŷn â gyrfa' yn gyfrifol am 15.5 y cant, wedi'i ddilyn gan ‘Medrau Pobl' ar 13.8 y cant, gan gynnwys perthynas ag oedolion yn y gwaith, bwlio ac aflonyddu. Mae ein cynghorwyr wrth law i gynnig cymorth emosiynol ynghyd â chyngor ymarferol gan gynnwys ein cynghorwyr arian arbenigol. Yn ychwanegol i hyn mae gyda ni wefan sydd wedi ymrwymo at athrawon yng Nghymru lle gallwch ddod o hyd i ystod eang o wybodaeth gan gynnwys y newyddion diweddaraf a diweddariadau sydd yn effeithio ar y proffesiwn dysgu. Mae gyda ni dros 1,300 o ffeithlenni ar gael, ynghyd â 400 arall yn y Gymraeg, sydd yn cynnig gwybodaeth ar ystod o bynciau. Teipiwch y geiriau allweddol mewn i flwch chwilio er mwyn dod o hyd i unrhyw ffeithlenni sy'n cyfateb. Gallwch roi tro arno drwy glicio yma neu yma am y Gymraeg. Cynigir ein holl wasanaethau ffôn yn ddwyieithog ac mae pob un o'n gwasanaethau ar gael am ddim. Rydym ni yma i gefnogi pob athro, o bobl dan hyfforddiant, wrth i chi wneud cynnydd yn eich gyrfa, yr holl ffordd hyd at y rhai hynny sydd wedi ymddeol. Rhowch alwad i ni unrhyw bryd yn gyfrinachol ar 0800 085 5088. Helpwch ni i ledu'r gair Mae cannoedd o athrawon wedi cael cefnogaeth gennym yn ystod y profiadau gawson nhw yn eu gyrfaoedd dysgu ac fe hoffem gyrraedd llawer mwy. Rydym yn ddibynnol ar ein cefnogwyr i ledu'r gair a sôn wrth bobl eraill am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig am ddim. Os ydych chi'n athro yng Nghymru, pam na soniwch amdanom ni wrth eich cydweithwyr a lawr lwytho un o'n posteri ar gyfer eich ‘stafell athrawon neu ofyn am ddeunyddiau am ddim ar gyfer eich ysgol: - Cliciwch yma i archebu deunyddiau hyrwyddo (rholiwch lawr i waelod y dudalen ar gyfer yr adnoddau sydd ar gael gan Teacher Support Cymru yn Saesneg a Chymraeg) - Cliciwch yma i lawr lwytho poster yn y Gymraeg Gallwch ledu'r gair hefyd flaenyrru'r e-newyddlythyr yma i unrhyw un o'ch cydweithwyr all fod â diddordeb neu ei annog ef neu hi i danysgrifio i'n cylchlythyr sydd am ddim ar ein gwefan, yma. |
Tanysgrifiwch am ein e-gylchlythyr rheolaidd, am ddim ac sydd wedi ymrwymo i les a iechyd athrawon. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
