From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

CADWCH YN HEINI A BYWIOG AR GYFER MIS CENEDLAETHOL Y GALON

By Sandra Taylor

Mae mis Chwefror yn fis Cenedlaethol y Galon felly does dim gwell amser i ddod yn fywiog a helpu i wella eich ffitrwydd, a does dim rhaid iddo olygu rhedeg marathon!

Fe glywsom oll y cyngor ynglŷn â gwneud 30 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos neu fwy - ond gyda bywyd mor brysur dyw e ddim o hyd yn hawdd cael y cyfle.

Fodd bynnag, gall gwneud newidiadau bach i'ch trefn arferol fod yn beth syml iawn. Dyma rai pethau gallwch wneud i geisio'ch cael chi i ddechrau:

  • Ceisiwch gerdded o amgylch y stafell ddosbarth.
  • Cerddwch neu beiciwch yr holl ffordd neu ran o'r ffordd i'r gwaith. Os oes gyda chi lawer o waith papur i'w gario, efallai gallwch ystyried gweithio yn y stafell ddosbarth ar ôl gwaith ar 1 neu 2 diwrnod er mwyn i chi allu gadael y gwaith papur yn yr ysgol.
  • Cymerwch y grisiau - p'un a ydych yn y gwaith neu yn y ganolfan siopa, ceisiwch gerdded yn hytrach na chymryd lifft.
  • Os yw'ch plant eich hun yn cymryd rhan mewn chwaraeon pam na ymunwch chi â nhw? Pe baech chi'n edrych ar eu holau ta beth, gallech gymryd pêl-droed i'r parc a chwarae gyda'ch gilydd. Os ydych yn aros am eich plant yn ystod eu gweithgaredd, meddyliwch am wneud rhywbeth ar yr un pryd, er enghraifft gallech nofio pe baen nhw hefyd yn cael gwers nofio?
  • Trefnwch gwrdd â ffrind i ymarfer gyda'ch gilydd. Os oes yna drefniant pendant lle byddech fel arall yn siomi rhywun, byddwch yn fwy tebygol o lynu ato.
  • Neilltuwch amser yn eich dyddiadur i ymarfer corff. Golyga pennu amser y bydd hi'n haws i sicrhau y caiff eich amser ei ddiogelu.
  • Peidiwch rhoi'r ffidil yn y to. Mae unrhyw ymarfer corff yn well na dim, felly os na allwch wneud pum gwaith yr wythnos, peidiwch â rhoi'r gorau i'r project yn llwyr- bydd pob gweithgaredd yn cyfrif tuag at deimlo yn fwy heini ac iachus.


Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cenedlaethol-y-Galon.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cenedlaethol-y-Galon-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!