Chwarter o athrawon heb glywed am PLCsby Victoria Bamber
Mae arolwg diweddar gan Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru (ATL Cymru) yn cadarnhau bod chwarter o athrawon Cymru heb glywed am fenter y Cymunedau Dysgu Proffesiynol (PLCs) erioed. Codwyd pryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd y cynllun, a ddadlennwyd gan Lywodraeth Cymu yn 2008. Mae PLCs yn hybu arfer gorau ac yn annog athrawon i weithio gyda’i gilydd o fewn, rhwng ac ar draws ysgolion. Er bod mwyafrif athrawon ATL Cymru wedi clywed am fodolaeth PLCs (73 y cant), dim ond 58 y cant sydd yn ymwneud ag un yn weithgar, yn ôl Wales Online . Mae’r ATL wedi lleisio pryder ynglŷn â’r fenter, gan ddatgan fod yna ‘faterion yn bodoli ynglŷn ag ariannu’. Mae rhai aelodau hefyd wedi cwyno fod y PLCs ‘fel petaent wedi cynyddu llwyth gwaith heb unrhyw fudd amlwg. Dywedodd Cyfarwyddwr ATL Cymru, Dr Philip Dixon, “Gall Llywodraeth Cymru ddwyn peth cysur o’r arolwg yma, wrth ystyried y gyfran uchel o athrawon sydd wedi clywed am, ac sydd wedi ymglymu â Chymunedau Dysgu Proffesiynol. “Fodd bynnag, mae nifer fawr o’r sawl sydd wedi ymglymu â hyn heb ael eu hargyhoeddi eto o’r budd a ddaw ohonynt,” ychwanegodd. “Cafwyd sylwadau sy’n dangos bod yr ariannu yn parhau i fod yn brif fater, a bod hyd yn oed athrawon sydd yn frwdfrydig ynglŷn â PLCs yn pwyntio at y cyfyngiadau amser sydd yn eu hatal rhag cael eu defnyddio’n well. Mae’r gweinidog wedi dweud fod angen i ni ganolbwyntio’n ddidostur ar safonau. Mae ATL Cymru yn cytuno ag ef. Ag eto, os yw hynny i gael ei wirioneddi, yna mae’n rhaid ‘sgubo peth o’r malurion sy’n amgylchynu’r ‘stafell ddosbarth er mwyn gwneud lle i Gymunedau Dysgu Proffesiynol.” Cytunodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru (NAHT),gan ddweud fod yna ‘ddarlun cymysg’ ynglŷn â chymunedau dysgu. Dywedodd hithau: “Mae yna lawer o frwdfrydedd yn bodoli lle mae egwyddorion y Cymunedau Dysgu Proffesiynol wedi cael eu deall yn gywir, oherwydd bod athrawon ac arweinwyr ysgol yn gallu gweld y gwahaniaeth gall eu gwaith PLC wneud i ddisgyblion. Yr hyn mae ein haelodau yn pryderu amdano yw bod yna dueddiad mewn rhai awdurdodau i ailddyfeisio’r olwyn wrth geisio pennu gweithgarwch PLC. Nid dyna’r pwrpas o gwbl. Mae hwn oll ynglŷn â chael grŵp o bobl broffesiynol gyda’i gilydd i ddatblygu syniadau ffres a ffyrdd newydd o feddwl sydd wedi eu cysylltu’n uniongyrchol at ddata ar berfformiad disgybl. Mae adnoddau’n amlwg yn fater i’w ystyried oherwydd bydd gwneud hyn yn gywir yn golygu cymryd llawer o amser ac ymdrech.” Cafod y fenter ei amddiffyn gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddweud: “Yn ystod y 12 mis diwethaf cafodd 1,900 o ysgolion yng Nghymru hyfforddiant PLC. Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r cynllun ac rydym yn gweithio gydag ymarferwyr i roi adnoddau o ansawdd uwch i gefnogi ysgolion i weithredu eu Cymunedau Dysgu Proffesiynol. Bydd y rhain ar gael i ysgolion erbyn diwedd y flwyddyn.” Tanysgrifwch i’n e-gylchlythyr neu Borthwr RSS am y newyddion addysg a’r wybodaeth ddiweddaraf. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA! | ||
|
| |||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.