|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. CHWILIO AM SWYDD A PHARATOI AR GYFER TYMOR NEWYDDNid disgyblion yw’r unig rai sy’n poeni am fynd yn ôl i’r ysgol. Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd pan fydd athrawon sydd newydd gymhwyso (ANG) yn chwilio am eu swyddi dysgu cyntaf, tra bod athrawon eraill yn wynebu dechrau tymor newydd arall ym mis Medi. Mae amrywiaeth o broblemau y mae ANG ac athrawon dan hyfforddiant yn eu hwynebu pan fyddant yn chwilio am eu swydd gyntaf. Er enghraifft, gall byw mewn ardal anghysbell a chostau teithio fod yn broblem yn ardaloedd gwledig y Gogledd, ond gall dod o hyd i swydd barhaol fod yn anodd yn Abertawe. Yn wir, mae’r dewis rhwng gweithio mewn ysgol wledig neu ddinesig yn gallu bod yn fater difrifol iawn i athrawon. Cafodd Carys, 28 o Abertawe, brofiad o weithio yn y ddau fath o amgylchedd pan gychwynnodd ar ei gyrfa. Dywedodd: “Ar y dechrau, roedd hi’n anodd cael swydd yn agos at fy nghartref, felly cymerais swydd mewn ysgol fechan yng Nghaerfyrddin. Fel athrawes newydd, roedd yn her fawr cwrdd ag anghenion gwahanol y disgyblion yn fy nosbarth, a oedd yn amrywio o ran oedran a graddau ddatblygiad. Gan fod yr ysgol yn un eithaf bach, roedd y berthynas rhwng y staff a’r disgyblion yn dda, a’r un modd gyda’r rhieni hefyd, a oedd yn aml yn ddigon parod i gyfrannu at weithgareddau a bywyd yr ysgol. Cefais brofiad gwahanol wrth weithio mewn ysgol ddinesig yn Abertawe. Roedd maint y dosbarthiadau yn fwy, ac roedd y disgyblion a oedd yn amharu ar y gwersi yn fwy niferus. Roedd y berthynas rhwng staff yn llai cyfeillgar, ond roedd mwy o gyfleusterau ar gyfer ddatblygiad y staff a chynllunio’r cwricwlwm.” Mae llawer o ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried pan fyddwch yn chwilio am eich swydd gyntaf, ac mae’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud penderfyniadau gyrfa. Felly, rydym wedi trefnu’r cynghorion canlynol er mwyn helpu athrawon a phobl eraill sydd yn chwilio am swydd newydd, pobl sy’n meddwl gweithio yn y byd addysg, neu athrawon sydd yn poeni am y tymor newydd. Y swydd iawn:
Gwneud cais:
Paratoi ar gyfer tymor newydd:
Os ydych chi angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth ar unrhyw fater personol neu broffesiynol, cysylltwch â Teacher Support Cymru ar 08000 855 088, neu ewch i www.teachersupportcymru.info. Mae ein gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog, maen nhw’n hollol gyfrinachol, yn rhad ac am ddim, ac ar gael 24 awr y dydd. Jessica Davies, Rheolwraig Cyfathrebu a Chodi Arian, Teacher Support Cymru. Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Chwilio-am-swydd-a-pharatoi.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Chwilio-am-swydd-a-pharatoi-printer.php Copyright ©2010 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |