From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

CHWYLDRO YN YSTAFELL YR ATHRAWON WRTH I FENYWOD GAEL Y SWYDDI GORAU

Joe Williams

Cafwyd adroddiad yn The Guardian yn ddiweddar ynglŷn â chanlyniadau ymchwil o'r pymthegfed astudiaeth flynyddol i swyddi gwag ar gyfer penaethiaid yng Nghymru a Lloegr.

Dangosodd yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Cenedlaethol y Prifathrawon (NAHT) a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Leaders (ASCL), bod y gyfran o ysgolion uwchradd sydd yn cael eu rhedeg gan fenywod yn cael ei gynyddu i 44 y cant ym mlwyddyn academaidd 2008/09 o 31 y cant y flwyddyn flaenorol.

Gwelwyd tuedd tebyg mewn ysgolion cynradd hefyd, lle mae 70 y cant o benaethiaid nawr yn fenywod. Mae 38 y cant o dan 39 oed - cynnydd o dri phwynt canran ar y llynedd.

Dylid estyn croeso cynnes i'r cynnydd yn y nifer o fenywod sydd yn dal swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion, a hoffai'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon longyfarch pawb wnaeth symud yn ddiweddar i fod yn bennaeth.

Er hynny, gwyddom o ryngweithio gyda miloedd o athrawon bob blwyddyn, bod camwahaniaethu o fewn addysg yn dal i fodoli. Yn ystadegol, mae dynion yn parhau i fod yn fwy tebygol o fod yn benaethiaid mewn ysgolion cynradd nac athrawon dosbarth, sydd yn awgrymu bod y nifer gymharol fach o ddynion sydd yn gweithio gyda phlant iau yn dueddol o fod yn uwch reolwyr.

Yn anffodus, nid ar sail rhyw yn unig y bodd gwahaniaethu'n digwydd mewn ysgolion a'r gymuned fwy eang. Gellir barnu pobl yn seiliedig ar eu hethnigrwydd, oed, ffydd neu alluoedd corfforol.

Mae'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yma i helpu unrhyw un sydd yn credu eu bod yn dioddef o gamwahaniaethu a hefyd yno i helpu'r bobl hynny sydd mewn swyddi arweinyddiaeth i sicrhau eu bod yn trin pawb yn deg.

Mae'n bwysig fod gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol bolisïau gweithdrefnau mewn lle i sicrhau nad yw'r fath wahaniaethu yn digwydd, fel y gallwch chi neu eich cynrychiolydd undeb ymgynghori â'ch ysgol er mwyn gweld pa fesurau sydd yn bresennol.

Yn ychwanegol i'r ffeithlenni uchod gellir dod o hyd iddynt ar ein gwefan www.teachersupport.info/cymru gallwch alw ein llinell gymorth gyfrinachol, am ddim hefyd ar 08000 855 088.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Chwyldro-yn-ystafell-yr-athrawon-wrth-i-fenywod-gael-y-swyddi-gorau.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Chwyldro-yn-ystafell-yr-athrawon-wrth-i-fenywod-gael-y-swyddi-gorau-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!