|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.
COFIO ATHRAWON GWYCH
Project coffau ar gyfer yr athrawon a newidiodd ein bywydau
By Rhia Stankovic-Jones
Cofio Athrawon Gwych
Project coffau ar gyfer yr athrawon a newidiodd ein bywydau
Mae Teacher Support Cymru yn falch o fod wedi lansio Cofio Athrawon Gwych: gwefan unigryw sydd yn galluogi defnyddwyr i dalu teyrnged parhaol i athrawon sydd wedi ein gadael.
Gall teulu, ffrindiau, cydweithwyr a disgyblion fynd at http://www.greatteachers.org.uk/ ac achub ar y cyfle i dalu teyrnged parhaol i'r bobl hynny a gafodd effaith mor gadarnhaol ar fywydau eu disgyblion ac sydd wedi marw erbyn hyn.
Gall defnyddwyr rannu atgofion a lluniau yn ogystal â dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â phrofedigaeth a chysylltiadau i wasanaethau cymorth Teacher Support Cymru.
Mae'r teyrngedau ar Cofio Athrawon Gwych wedi eu cysegru i rai athrawon arbennig iawn. Ond roedden nhw'n fwy nac athrawon – roedden nhw hefyd yn bobl oedd yn cael eu caru gan eu teulu, ffrindiau da a chydweithwyr cefnogol. Athrawon gwych a wnaeth mwy nac addysgu – ond a ysbrydolodd, diddanodd, ysgogodd a chefnogodd y rhai hynny roeddwn nhw'n eu hadnabod.
Dywedodd Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, Patrick Nash:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio'r wefan newydd hon. Yn ogystal â'n gwasanaethau ffôn ac ar-lein, mae'n rhan o genhadaeth Teacher Support Cymru i sicrhau bod y proffesiwn yn cael ei gydnabod fel un sydd yn chwarae rhan hanfodol wrth adeiladu gwell cymdeithas a bod yr athrawon gwych yma yn cael eu anrhydeddu am eu gwasanaeth i genhedloedd iau a chymunedau eu hysgolion.
“Wrth ryngweithio gyda degau o filoedd o athrawon bob blwyddyn, fe wyddom gall colli athro fod yn gyfnod trallodus iawn i'r teulu, cydweithwyr a disgyblion. Gobeithiwn bydd Cofio Athrawon Gwych yn rhoi lle i gymunedau ysgol sydd wedi eu heffeithio ddod at eu gilydd i dalu teyrnged i'r bobl a'n gadawodd a'r effaith arbennig y cafodd athrawon ar fywydau rhai eraill.
Os hoffech dalu eich teyrnged eich hunan, ewch i www.greatteachers.org.uk
Source information:
Posted in:
newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cofio-Athrawon-Gwych.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cofio-Athrawon-Gwych-printer.php
Copyright ©2010 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!
|