Cofio Athrawon GwychProject coffau ar gyfer yr athrawon a newidiodd ein bywydauBy Rhia Stankovic-Jones
Cofio Athrawon Gwych Project coffau ar gyfer yr athrawon a newidiodd ein bywydau Mae Teacher Support Cymru yn falch o fod wedi lansio Cofio Athrawon Gwych: gwefan unigryw sydd yn galluogi defnyddwyr i dalu teyrnged parhaol i athrawon sydd wedi ein gadael. Gall teulu, ffrindiau, cydweithwyr a disgyblion fynd at http://www.greatteachers.org.uk/ ac achub ar y cyfle i dalu teyrnged parhaol i'r bobl hynny a gafodd effaith mor gadarnhaol ar fywydau eu disgyblion ac sydd wedi marw erbyn hyn. Gall defnyddwyr rannu atgofion a lluniau yn ogystal â dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â phrofedigaeth a chysylltiadau i wasanaethau cymorth Teacher Support Cymru. Mae'r teyrngedau ar Cofio Athrawon Gwych wedi eu cysegru i rai athrawon arbennig iawn. Ond roedden nhw'n fwy nac athrawon – roedden nhw hefyd yn bobl oedd yn cael eu caru gan eu teulu, ffrindiau da a chydweithwyr cefnogol. Athrawon gwych a wnaeth mwy nac addysgu – ond a ysbrydolodd, diddanodd, ysgogodd a chefnogodd y rhai hynny roeddwn nhw'n eu hadnabod. Dywedodd Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, Patrick Nash: “Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio'r wefan newydd hon. Yn ogystal â'n gwasanaethau ffôn ac ar-lein, mae'n rhan o genhadaeth Teacher Support Cymru i sicrhau bod y proffesiwn yn cael ei gydnabod fel un sydd yn chwarae rhan hanfodol wrth adeiladu gwell cymdeithas a bod yr athrawon gwych yma yn cael eu anrhydeddu am eu gwasanaeth i genhedloedd iau a chymunedau eu hysgolion. “Wrth ryngweithio gyda degau o filoedd o athrawon bob blwyddyn, fe wyddom gall colli athro fod yn gyfnod trallodus iawn i'r teulu, cydweithwyr a disgyblion. Gobeithiwn bydd Cofio Athrawon Gwych yn rhoi lle i gymunedau ysgol sydd wedi eu heffeithio ddod at eu gilydd i dalu teyrnged i'r bobl a'n gadawodd a'r effaith arbennig y cafodd athrawon ar fywydau rhai eraill. Os hoffech dalu eich teyrnged eich hunan, ewch i www.greatteachers.org.uk |
Sign up to receive free, personalised, online coaching from our support professionals. START HERE! | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
gofynnwch gwestiwn
Rhowch gynnig ar hyfforddiant ar-lein.
Gofynnwch gwestiwn a chael ateb gan un o'n hyfforddwyr proffesiynol.
search our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.