Colli Hyder yn y System Bandio Ysgolion, meddai Cadeirydd NUT CymruMae Cadeirydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT Cymru) a phennaeth un o ysgolion hynaf Cymru yn dweud bod hyder eisoes wedi cael ei golli yn y system bandio ysgolion newydd. Yn ôl adroddiad gan y BBC, mae Neil Foden o Ysgol Friars ym Mangor wedi galw'r system bandio, sydd yn dechrau fis nesaf, yn 'amherffaith', oherwydd nad yw ysgolion, rhieni na gweision sifil yn ei Mae'r system bandio ysgolion yn defnyddio data cenedlaethol ar berfformiad ysgolion i roi ysgolion gyda'i gilydd mewn un o bump 'band perfformio'. Mae model y bandiau'n defnyddio data fel: canlyniadau TGAU, y sawl sy'n gymwys i gael prydiau ysgol am ddim, cofnod presenoldeb a chynnydd er mwyn categoreiddio'r ysgolion hyn. "Mae'r system yn ffordd amherffaith o fesur ysgolion," dywedodd Mr Foden. "Er enghraifft, pe baem yn gallu recriwtio saith plentyn ychwanegol o deuluoedd difreintiedig oedd yn gymwys i gael prydau ysgolion am ddim, byddem bron yn sicr o symud i fyny i'r chwartel nesaf er na fyddem o reidrwydd wedi gwneud unrhyw beth i wella ein perfformiad. Er gwaetha'r ffaith na fyddem wedi gwneud unrhyw beth, byddai'n perfformiad yn sydyn yn ymddangos yn well. Mae'n glir felly nad yw hyn yn sefyllfa iach gan y gallai fod yn gamarweiniol. Cafodd ysgolion wybod i ba fandiau maen nhw'n perthyn dros dro, ond mae Plaid Cymru'n dweud eu bod yn bryderus y gallai'r system gael ei dehongli yn yr un modd â thablau cynghrair i ysgolion. Dywedodd Llefarydd Addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: Dyw Plaid Cymru ddim eisiau i'n hysgolion gael eu meicro-reoli. Mae'r Gweinidog dros Addysg Plant ac Addysg Gydol Oes, Leighton Andrews AC, yn ceisio enwi a chywilyddio ysgolion mae e'n eu hystyried i fod yn rhai sy'n tanberfformio, ond yr unig beth y gallai hyn ei gyflawni byddai i'w tanseilio nhw'n bellach. Mae'r Gweinidog ei hun wedi cyfaddef fod y tablau cynghrair yn 'symplistaidd' ac yn 'ddinistriol' ond eto mae'n parhau i'w sefydlu nhw yng Nghymru o dan enw gwahanol. Yr unig beth fydd yr hyn mae'r Gweinidog wedi ei gyhoeddi hyd yma yn ei gyflawni, fydd i amlygu'r bwlch rhwng ysgolion 'da' a 'gwael' heb fynd i'r afael â'r rhesymau am eu methiant. Cafodd y system bandio ysgolion ei amddiffyn gan lefarydd ar ran Leighton Andrews AC, gan ddweud, "Os yw Ysgol Friar's nawr yn meddwl y dylai hi wneud mwy i ymglymu â phobl gefndiroedd difreintiedig, mae hynny yn ei hun yn ddeilliant cadarnhaol o'r ymarfer bandio. Fel y dywedodd Mr Foden, does dim o'r fath beth â system berffaith, ond, mae'r dull bandio yn seiliedig ar y data a'r modelu mathemategol mwyaf cyfredol a dibynadwy sydd ar gael." Am y newyddion a'r wybodaeth addysgol ddiweddaraf, pam na wnewch chi danysgrifio i'ne-gylchlythyr am ddim neu ein Bwydydd RSS. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
