|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. CYNHADLEDD ATHRAWON CYFLENWICynhaliwyd sesiwn hyfforddi'r wythnos hon gan Teacher Support Cymru i helpu athrawon cyflenwi adnabod pa bethau oedd yn achosi straen a sut oedd datblygu ffordd o'i reoli. "Dyw e ddim yn hawdd i athrawon cyflenwi ddod at ei gilydd oherwydd fe allant gael eu cyfyngu gan y rhybudd byr a geir gan gyfleoedd gwaith" meddai Sandra Taylor, Rheolwr Datblygu Teacher Support Cymru. "Fe ganiataodd y sesiwn i'r sawl a'i mynychodd i ganolbwyntio ar yr heriau unigol a'r pwysau sy'n eu hwynebu ac ar yr un pryd fe roddwyd cyfle i bawb fod yn bositif ynglŷn â'r rhesymau pam y daethon nhw'n athrawon cyflenwi" Cafodd y diwrnod ei gynnal o fewn y gynhadledd gyntaf i gael ei redeg ar y cyd gan Gyrfa Cymru Gorllewin, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a New Directions, ac roedd yn cynnwys cyflwyniad sef 'Diwrnod ym mywyd athro cyflenwi' ynghyd â gweithdy ar reoli ymddygiad. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bod yn athro cyflenwi, cymerwch olwg ar y ffeithlenni canlynol:
Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cynhadledd-Athrawon-Cyflenwi.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Cynhadledd-Athrawon-Cyflenwi-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |