Eisteddfod yr Urdd yn dod i Fae Caerdydd

By Rhia Stankovic-Jones

Mae Bae Caerdydd yn siŵr o fod yn lle cyffrous i fod yn ystod wythnos hanner tymor wrth iddi gael ei drawsnewid i fod yn safle Eisteddfod yr Urdd, sef gŵyl ddiwylliannol ieuenctid Cymru.

Disgwylir hyd at 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad ysblennydd yma, sydd a chanddi gynulleidfa deledu anferth hefyd. Bydd Teacher Support Cymru yno ar Ddydd Mawrth, Mai 26 a Dydd Mercher, Mai 27.

Bydd Rhia, ein Rheolwr Cyfathrebiadau a Chodi Arian wrth law i ateb unrhyw un o'ch cwestiynau a bydd yn rhoi defnyddiau am ddim i chi gael cymryd yn ôl i'ch ysgol. Os bydd digwydd i chi ei cholli bydd mwy o'n deunyddiau ar gael ar stondin NUT Cymru.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!





 

SITE TOOLS