Elusen yn mynd yn groes i’r graen gyda gwirfoddolwyr hŷn
Mae elusen yng Nghymru yn mynd yn groes i'r tueddiad sy'n gweld gostyngiad yn y niferoedd o wirfoddolwyr drwy dargedu pobl sydd dros eu 50. Mae Teacher Support Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr aeddfetach i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o'r elusen a'i wasanaethau. "Mae gan wirfoddolwyr sydd dros eu 50 amser a brwdfrydedd" eglura Sandra Taylor, Rheolwraig Datblygu Teacher Support Cymru. "Mae ganddyn nhw gymaint mwy o brofiad bywyd a thrwy wirfoddoli maent yn teimlo eu bod yn gallu rhannu'r profiad hwnnw." Ar wahân i bobl ifanc, lle y gwelwyd cynnydd bach, mae'r rhan fwyaf o grwpiau oedran wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd o bobl sy'n fodlon gwirfoddoli. Credir fod y cynnydd hwn yn gysylltiedig â diweithdra ac awydd gan bobl ifanc i chwilio am ffyrdd eraill o atodi cymwysterau a phrofiad pellach. "Y gwahaniaeth gyda'n gwirfoddolwyr ninnau yw bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn athrawon sydd wedi ymddeol, felly mae eu hanghenion yn wahanol. Er enghraifft, dyw gwirfoddolwyr 50+ ddim yn chwilio'n arbennig am gymhwyster neu gyflogaeth," ychwanegodd Sandra Taylor, sydd yn defnyddio gwirfoddolwyr i fynd mewn i ysgolion a siarad am wasanaethau cymorth ffôn ac ar-lein unigryw'r elusen ar gyfer athrawon. "Maen nhw'n ein helpu i ledu'r neges ynglŷn â'r hyn gall TSC ei gynnig i fwy o athrawon ar raws Cymru, na fyddai hi'n bosibl i ni wneud ar ein pennau'n hunain." Mae Annie Bushby wedi gwirfoddoli erioed, ond fe ddaeth i gyswllt â Teacher Support Cymru wedi iddi gael ei wneud yn ddi-waith yn gynharach llynedd. "Allwn i ddim gwneud dim byd," eglurodd Annie, gan ychwanegu bod gwirfoddoli yn rhoi "llawer o fedrau ychwanegol o du allan i'ch gyrfa". Cred Annie bod angen i wirfoddolwyr deimlo'n angerddol dros eu hachos. "Mae dysgu yn fy nghalon, a dyna pam roeddwn i eisiau gweithio gyda Teacher Support Cymru. Os oes modd i fi newid bywyd un person yn unig, fe fydd wedi bod yn werth yr ymdrech." Er mwyn cael gwybod sut mae gwirfoddoli gyda Teacher Support Cymru, cysylltwch â Jayne Davies ar Jayne.davies@teachersupport.info neu rhowch alwad i 01443 827634. To read this article in English, click here. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | ||
|
| |||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
