Pan dorrodd system gwres canolog Geoff yn ystod y gaeaf diwethaf

fe wnaeth y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yn siŵr na fyddai Geoff yn dioddef o’r un dynged.


5951377_older_man__reading.jpg

Fe hoffwn sôn wrthych chi am Geoff. Mae Geoff yn athro daearyddiaeth weddi ymddeol sydd wedi gwasanaethu ers dros 25 mlynedd. Ar yr adeg yma'r llynedd, cafodd wriag Geoff, Valerie, drawiad ar y galon a bu rhaid iddi dreulio llawer o amser yn yr ysbyty. Yn ffodus, gwellodd Valerie yn gyflym, ond pan ddaeth hi'n bryd i Valerie ddychwelyd adref, darganfyddodd Geoff fod y system gwres canolog wedi torri'n gyfan gwbl. Mae'n siŵr y cofiwch taw'r gaeaf diwethaf oedd yr oeraf ers sawl blwyddyn, felly gorfodwyd Geoff i gadw'r tŷ yn gynnes gyda gwresogyddion trydan wrth i Valerie barhau i wella.

Pan gyrhaeddodd y bil trydan rai wythnosau yn ddiweddarach roedd Geoff mewn trallod. Yn bensiynwyr, doedd dim modd iddo ef na Valerie allu fforddio talu bil mor fawr a phrynu boeler newydd sbon hefyd.

Fel sawl un o'i flaen, rhoddodd Geoff alwad i'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon (Teacher Support Network) am help. (Byddai athrawon sydd yn byw yng Nghymru yn galw Teacher Support Cymru).

Roedd ein hymgynghorwyr hyfforddedig yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i Geoff ac awgrymwyd y dylai wneud cais am grant unigol. Ar yr achlysur hwn, roeddwn yn gallu rhoi £2,000 i Geoff er mwyn newid ei foeler ac mae'n bleser gen i ddweud bod bywyd yn dod 'nôl i'r arfer ar gyfer Geoff a Valerie.

Mae Teacher Support Cymru (sef Cronfa Fudd yr Athrawon) wedi bod yn rhoi grantiau ers dros gan mlynedd.

Byddai rhodd ohonoch heddiw yn golygu y gallwn helpu mwy o athrawon cyfredol, di-waith ac wedi ymddeol sydd yn byw yng Nghymru, sydd yn troi atom ni pan fydd neb arall yn gallu helpu. Dydy ceisiadau am grantiau erioed wedi bod yn uwch a gyda'ch help gallwn adfer urddas i gydweithwyr fel Geoff.

Byddai rhodd o £5 (neu unrhyw swm y gallwch ei fforddio) yn mynd yn uniongyrchol at ein cronfa grantiau ac mae wedi ei sicrhau i beidio a chael ei wario ar gostau cyffredinol, ond ar helpu athrawon eraill fel Geoff.

Byddai rhodd reolaidd drwy Ddebyd Uniongyrchol o £2 y mis yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y sawl fydd ein hangen y gaeaf hwn ac yn y dyfodol.

Diolch i chi ar ran Geoff a phawb sydd wedi troi at Teacher Support Cymru am help.





 

SITE TOOLS