From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

GOFYNION PWYSAU GWAITH AR ATHRAWON CYMREIG

by Sandra Taylor

Yn ddiweddar,fe ganfu Cyngres yr Undebau Llafur taw athrawon oedd ymhlith y ddau broffesiwn oedd fwyaf tebygol i weithio goramser.

Mae hyn wedi tanio trafodaeth yn y cyfryngau ynglŷn â llwyth gwaith athrawon a'r oriau fyddan nhw'n gweithio mewn llythyr i DES Cymru'r wythnos ddiwethaf.

Mae canfyddiadau Cyngres yr Undebau Llafur ynglŷn â'r oriau a weithiwyd gan athrawon yn cydberthyn â phrofiadau Teacher Support Cymru. Mae pwysau gwaith- ac o ganlyniad i hynny, yr angen i weithio llawer mwy o oriau na'r hyn a gontractiwyd - yn aml yn dod i'r wyneb fel materion sydd o bwys i nifer fawr o'r athrawon sy'n defnyddio ein Llinell Gymorth a gwasanaethau Cymorth Ar-lein.

Gwyddom yn enwedig, bo nifer o athrawon yn ei chael hi'n anodd cynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd o ganlyniad i'r gofynion arnyn nhw yn ystod adeg y tymor. Mewn arolwg diweddar dywedodd 78 y cant o athrawon bod pwysau gwaith gormodol yn cyfrannu i broblemau iechyd meddwl cyffredin - fel stres, pryder ac iselder ysbryd - a oedd yn deillio o'r lle gwaith.

Mae llythyr MR Toothill yn cydnabod bod y gwyliau ysgol, i nifer fawr o athrawon, wedi ei ddominyddu gan baratoadau ar gyfer y tymor newydd, a thrwy hynny yn sicrhau dros gwrs blwyddyn, bod pwysau gwaith athrawon lawer yn fwy na phobl broffesiynol eraill.

Croesawir ymdrechion gan lywodraeth ac ysgolion i leihau pwysau gwaith athrawon. Fodd bynnag, mae ein profiadau'n dangos bod pwysau gwaith nifer o athrawon ar draws Cymru yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd emosiynol a'u gallu i ddysgu. Ein gobaith yw bod ein gwaith- ac adroddiad y Gyngres - yn helpu amlygu'r angen i leihau'r diwylliant o ‘oriau hir' sydd yn bodoli mewn nifer o ysgolion, a'n bod yn helpu i oleuo sgyrsiau cadarnhaol ac agored ar lefel ysgol a llywodraeth sydd yn amlygu buddion pwysau gwaith hydrin i athrawon er mwyn iechyd unigolion a safonau addysg yng Nghymru.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Gofynion-pwysau-gwaith-ar-athrawon-Cymreig.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Gofynion-pwysau-gwaith-ar-athrawon-Cymreig-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!