Gwasanaeth cefnogaeth newydd ar gyfer athrawon, yn yr iaith Gymraeg, yn derbyn cymorth gweinyddiaethol


Heddiw, bydd Jane Davidson, AC ac y cyn Gweinidog Addysg, yn lawnsio’r gwasanaeth hyfforddiant dwyieithog cyntaf ar gyfer athrawon, yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn Garth Olwg.

Dywedodd Jessica Davies, Rheolwraig Cyfarthrebu a Chodi Arian, Teacher Support Cymru:

“Gwnaeth ymchwil a gynhaliwyd Teacher Support Cymru canfod yr angenrheidrwydd am fwy o wasanaethau cyflawn ar-lein ac fel ymateb datblygwyd system hyfforddi trwy e-bost.

“Drwy sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn darparu Teacher Support Online Cymru nid yn unig yn cydnabyddiaeth o’n heniaith a’n hunaniaeth diwylliannol, ond bydd hefyd yn galluogi Athrawon sydd yn siarad Cymraeg i drafod y materion sydd yn effethio’u lles mewn modd effeithiol a chyfforddus.”

Mae Teacher Support Online Cymru yn darparu wefan ddiogel, lle mae athrawon yn mewngofnodi i cyfrif personol a chyfrinachol, a mynedu gwybodaeth, taflenni ffeithiau, ac anfon a derbyn e-byst i hyfforddwr personol, yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae athrawon Lloegr wedi cael mynediad at wasanaethau syml am bron ddwy flynedd, ac mae’r materion sydd fel arfer yn cael eu trafod efo’r hyfforddwyr yn amrywio o rheoli’r dosbarth, gwellhau perthnasau yn y gweithle, yn dod yn fwy ddisyflyd, a chydbwyso’r gwaith.

Bydd lawnsiad Teacher Support Online Cymru yn cymryd lle yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes at Campws Garth Olwg/ Rhydyfelen, 12 Mehefin, am 4.30 p.m.

Bydd cyfle i drio’r gwasanaeth newydd yma ac i weld manteision y gwasanaethau eraill sydd yn cael eu darparu. Hefyd, bydd dewis o lluniaethau Cymreig ar gael.





 

SITE TOOLS