|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. GWELLWCH EICH SGILIAU CYFATHREBUCyfathrebu effeithiol sydd wrth galon pob athro da. Yn wir, mae’n hollbwysig ym mhob agwedd o fywyd. Mae’r perthnasau rydych yn ffurfio gyda chydweithwyr, myfyrwyr, rhieni a llywodraethwyr yn hollbwysig er mwyn sicrhau bywyd esmwyth o ddydd i ddydd, yn ogystal â chynorthwyo eich gyrfa yn yr hirdymor. Mae’n well gen i agor unrhyw gyfathrebiad trwy ofyn cwestiynau agored, gan fod hyn yn dangos pobl eraill eich bod yn ymddiddori yn eu hymatebion. Cymerwch eich amser, byddwch yn sicr o’r hyn rydych am ddweud cyn i chi ddechrau, a defnyddiwch iaith clir a syml. Dylech amrywio’ch modd o gyfathrebu gan ystyried pwy rydych yn siarad â nhw; byddwch yn bositif ac yn hyderus; ac yn sicr, credwch fod yr hyn sydd ganddoch i’w ddweud gwerth chweil! Yn fy marn i, ffactor pwysig arall i’w gofio ydy cyfathrebiad aneiriol neu iaith y corff: yn ddifater os mai gydag unigolyn neu grŵp rydych yn cyfathrebu. Mae’r hyn rydym yn ei wneud yn cyfathrebu llawer mwy na’r hyn rydym yn ei ddweud. Ymddygiad awtomatig ac anodd newid ydy llawer o’n ymddygiad aneiriol. Fodd bynnag, trwy ddysgu sut i ddarllen iaith y corff, gallwch wneud eich hun yn fwy positif a hawdd mynd ato. Ar yr un adeg, gallwch gasglu cliwiau am sut mae pobl eraill yn teimlo. Dyma rhai awgrymiadau sylfaenol:
Fel Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, mae’n rhaid imi, ar adegau, delio gyda sefyllfaoedd lletchwith, mynegi pwynt anodd neu drafod pwynt gydag unigolyn sydd yn grac neu’n emosiynol. Dyma rhai syniadau cyffredinol am esmwytho’r broses:
Yn aml, gweler canlyniadau diffyg cyfathrebiad yn y gweithle yn syth: camddealldwriaeth, tensiwn a chyfaddawiad dianghenraid. Ar adegau eraill, sylwer ar ganlyniadau negyddol dros gyfnod hir, heb obaith o’u datrys. Ceisiwch osgoi’r arferion cyfathrebu gwael yma. Dyma rhai awgrymiadau am beth y dylech chi ddim gwneud tra’n cyfathrebu eraill:
Yn olaf, am ragor o gefnogaeth ynglŷn â datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ebostiwch un o hyfforddwyr Teacher Support Online trwy www.teachersupport.info. Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Gwellwch-eich-sgiliau-cyfathrebu.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Gwellwch-eich-sgiliau-cyfathrebu-printer.php Copyright ©2010 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |