Mae 15 y cant o athrawon wedi dioddef seibrfwlïoMae'r hyn a oedd unwaith yn nodyn a basiwyd ymhlith disgyblion wedi ei bostio ar y we nawr i bawb gael gweldTeacher Support Cymru
Cafodd y maint arswydus o'r defnydd a wneir o dechnoleg i fwlio staff ysgolion a cholegau ei ddatgelu'r wythnos hon wrth i ganlyniadau arolwg gael eu rhyddhau gan Gymdeithas Athrawon a Darloithwyr (Association of Teachers and Lecturers (ATL) ) a Teacher Support Cymru, sydd yn rhan o'r grŵp elusennol, Teacher Support Network. Dywedodd un o bob saith a atebodd eu bod wedi dioddef seibrfwlïo a dywedodd bron i un ymhob pump eu bod yn gwybod am gyd-weithwyr oedd wedi ei ddioddef hefyd. Dywedodd 63 y cant o'r rhai hynny a oedd wedi dioddef o seibrfwlïo eu bod wedi derbyn e-byst atgas. Roedd dros chwarter wedi cael negeseuon sarhaus amdanyn nhw wedi eu postio ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a dywedodd 28 y cant o bobl eu bod wedi derbyn negeseuon testun atgas. Er bod cyfran sylweddol - 44 y cant - wedi cael eu bwlio gan ddisgyblion, ffaith frawychus oedd bod 28 y cant wedi dweud mai rheolwr neu gydweithiwr oedd tu ôl i'r gamdriniaeth. Cafodd yr effaith mae seibrfwlïo'n ei gael ar bobl sy'n dioddef ohono ei wneud yn amlwg hefyd, gyda 39 y cant yn dweud ei fod wedi lleihau eu hyder a'u hunan-barch, a 25 y cant yn dweud ei fod wedi lleihau eu heffeithiolrwydd fel athro neu athrawes a 6 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu gorfodi i fynd yn absennol oherwydd salwch o ganlyniad i dostrwydd neu stress. Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr ATL, Dr Mary Bousted: “Mae seibrfwlïo yn beth dinistriol a gall fod yn niweidiol iawn i hunan-barch, hyder ac enw da'r bobl sy'n dioddef ohono. Nid mater dibwys mohono, ac mae angen mynd i'r afael ag ef mewn modd sydd yr un mor gadarn â gyda ffurfiau eraill o fwlio. Rydym yn annog ein holl ysgolion a cholegau i wneud mwy i amddiffyn staff a disgyblion. Mae angen i ni gael polisïau cadarn yn eu lle i allu trin seibrfwlïo a gweithredu'r polisïau yma'n rymus.” Dywedodd Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, Patrick Nash: “Mae'r hyn a oedd unwaith yn nodyn a basiwyd ymhlith disgyblion wedi mynd yn rhywbeth a ellir ei bostio ar y rhyngrwyd i bawb ei weld. Rhaid ymladd yn erbyn seibrfwlïo i rwystro'r niwed ofnadwy gallai achosi i les athrawon a disgyblion - ac i safonau addysg pawb. “Mae'n hanfodol fod ysgolion yn mabwysiadu polisïau ystyrlon ac effeithiol i gyfeirio at y broblem hon a difa seibrfwlïo - p'un a yw'n dod o gyfeiriad disgyblion, cydweithwyr neu arweinwyr ysgolion.” Canlyniadau'r arolwg:
|
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
