From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

MATERION ARIANNOL- YDYCH CHI’N GYFARWYDD â’CH ISA’S?


P'un a ydych yn gynilwr rheolaidd neu heb gynilo ceiniog ers eich casgliad o foch NatWest, mae'n bwysig i wybod beth sydd ar gael a sut allwch elwa o roi peth heibio.

Un o'r ffyrdd gorau o gynilo yw drwy ddefnyddio ISA (Cyfrif Cynilo Unigol), gan na fydd rhaid i chi dalu treth ar y llog. Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cyfrifon ISA felly mae'n werth chwilio am y fargen orau.

Y newyddion da yw bydd uchafsymiau ISA newydd yn dod i rym o Hydref 5, ar gyfer y sawl sydd dros 50 oed. Bydd angen i chi fod wedi eich geni cyn neu ar Ebrill 5, 1960 i gymhwyso. Bydd unigolion cymwys yn gallu cynilo hyd at £5,100 mewn ISA arian parod, a gellir rhoi gweddill eich lwfans - hyd at yr uchafswm cyflawn newydd o £10,200 - mewn ISA Stoc a chyfranddaliadau. Neu fe allwch ddefnyddio'ch lwfans cyfan ar gyfer ISA Stoc a Chyfranddaliadau yn unig. Bydd yr uchafsymiau newydd yma ar gael i bawb sydd yn 16 oed neu fwy o fis Ebrill 2010.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn ag ISAs, y gwahanol fathau sydd ar gael a beth fyddai'n eich gweddu orau, ar ein ffeithlen newydd, Canllaw dechreuwyr i ISAs gan Gymdeithas Adeiladu'r Athrawon a fu mor garedig â'i ysgrifennu ar ein cyfer.

Cofiwch fod ein cynghorwyr arian ar gael gyda chyngor am ddim a chyfrinachol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhowch alwad i ni ar 08000 855 088.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Materion-Ariannol--ydych-chi-n-gyfarwydd-ch-ISA-s.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Materion-Ariannol--ydych-chi-n-gyfarwydd-ch-ISA-s-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!