Meddwl Iach yn y Gwaith: Sut y bydd o fudd i athrawon


Sut y bydd o fudd i athrawon

Prosiect peilot yw Meddyliau Iach ar Waith sy’n anelu at fynd i’r afael â gwahaniaethu ac addysgu cyflogwyr am effeithiau materion iechyd meddwl ar gyflogeion ac ar yr amgylchedd gwaith.

Mae’r peilot yn anelu at gyrraedd 30,000 o gyflogeion yng Nghymru gyda’r nod o ledaenu arfer da ledled y DU a thu hwnt.

Amcanion:

  • hybu nifer y cyflogeion sydd â phroblemau iechyd meddwl sy’n aros yn eu swyddi
  • darparu rhaglen gynhwysfawr o gymorth i gyflogeion a chyflogwyr

Bydd hyn yn cael ei ddarparu trwy linell gymorth 24/7, gwasanaethau sy’n nodi sefydliadau cymorth perthnasol eraill, rhaglen ymchwil a gwaith i hyrwyddo ymwybyddiaeth barhaus o iechyd meddwl.

Pam mae Teacher Support Cymru yn cymryd rhan?

Mae’r elusen annibynnol hon ar gyfer athrawon sy’n ymroddedig i les ac effeithiolrwydd y proffesiwn yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim ar faterion personol a phroffesiynol.

Bydd proffesiynoliaeth ac arbenigedd yr elusen ym maes lles yn amhrisiadwy i’r prosiect Meddyliau Iach ar Waith sy’n anelu at fanteisio i’r eithaf ar waith ymchwil, llinell gymorth a gwasanaethau cymorth yr elusen.

Bydd Teacher Support Cymru yn helpu i lansio’r gwasanaeth cymorth peilot i 30,000 o gyflogeion o bob sector yng Nghymru.

Mae Teacher Support Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaeth o gyflogwyr ar draws y sector preifat yng Nghymru dros y deunaw mis diwethaf i ymchwilio i’r angen am wasanaeth cymorth i chwalu’r rhwystrau a’r tabŵ sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.

I ddarganfod mwy am Meddwl Iach yn y Gwaith, ymwelwch a’r wefan.

I adnabyddu'r ffaith bod Cymru yn fwy a fwy dwyieithog, am y tro cyntaf yn hanes Teacher Support Cymru bydd gennym wefan a gwasanaeth ar lein hollol ddwyieithog. Rydym yn gofyn am eich amynedd wrth i ni orffen y cyfieithiadau i gyd.





 

SITE TOOLS