Mynd i’r afael â chamwahaniaethu mewn ysgolionby Joe Williams
Daeth newyddion yr wythnos hon fod aelodau staff mewn ysgol breswyl yng Nghymru wedi ennill eu brwydr dros hawliau pensiwn cyfartal. Cafwyd adroddiad gan y BBC fod gweithwyr rhan amser benywaidd wedi honni eu bod wedi dioddef o gamwahaniaethu rhywiol ar ôl cael eu rhwystro rhag cael mynediad at gynllun pensiwn Ysgol Haberdasher's ym Mynwy. Caiff mwy na £150,000 ei dalu nawr gan y ddwy ysgol Haberdasher yn dilyn dod i gytundeb ddyddiau cyn achos o flaen tribiwnlys. Gwadodd cadeirydd yr ysgol eu bod wedi trafod gwahardd gweithwyr rhag y cynllun ond dywedodd fod yn lawr gwell dod i drefniant nawr na mynd drwy broses ddrud, ymestynedig. Yn yr achos hwn, mae pob un o'r 27 sydd yn hawlio yn aelodau staff nad sy'n dysgu. Er gwaethaf hynny, gwyddom drwy'r miloedd o alwadau a dderbyniwn bob blwyddyn fod camwahaniaethu yn broblem sydd yn parhau i effeithio athrawon mewn ysgolion ar hyd y DU. Daw rhagfarn mewn sawl ffurf. Gall rhyw, oed, hil a rhywioldeb fod yn sail sy'n gyfrifol am gamwahaniaethu mewn ysgolion, er gwaetha'r cyfreithiau a roddwyd mewn lle gyda'r bwriad o'i rwystro. Yn ogystal â bod yn anghyfreithlon ac anghyfiawn, gall camwahaniaethu amlygu ei hun mewn nifer o ffyrdd a gall achosi cythrwfl emosiynol difrifol hefyd. Mae'n bwysig bod gwneuthurwyr penderfyniadau mewn ysgolion yn hyddysg yn y ddeddfwriaeth yn erbyn camwahaniaethu a bod yr holl aelodau staff yn cyfrannu at ddiwylliant o ddioddefgarwch, ymwybyddiaeth a bod yn agored. Cofiwch fod ein hyfforddwyr a chynghorwyr wrth law i roi cymorth emosiynol ac ymarferol i unrhyw un sydd yn teimlo eu bod y dioddef o gamwahaniaethu. Gallwch ein galw ni ar ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim ar 08000 855 088. |
Tanysgrifiwch am ein e-gylchlythyr rheolaidd, am ddim ac sydd wedi ymrwymo i les a iechyd athrawon. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
