|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. PENDERFYNIADAU GYRFAby Sally BakerDaw un o'r tri dyddiad ymddeol swyddogol ar gyfer athrawon i ben ar ddiwedd y mis hwn, gyda'r sawl sy'n dymuno ymddeol, symud ysgol, newid swyddi neu adael y proffesiwn yn llwyr yn gorfod rhoi gwybod erbyn Chwefror 28. Mae ymholiadau gwaith a gyrfa wedi bod yn gyfrifol am 37.8 y cant o alwadau i'n Llinellau Cymorth yn y bythefnos ddiwethaf. P'un a ydych ymhlith y sawl sydd wedi penderfynu symud ymlaen neu'n ystyried dewisiadau ar gyfer eich dyfodol, gall Teacher Support Cymru roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi. Gall gwneud penderfyniadau ynglŷn â'ch gyrfa fod yn anodd ond gall swydd neu ffordd o fyw newydd fod yn gyfle cadarnhaol i ddatblygu gyrfa nu gyflawni nod personol. Os hoffech chi ychydig o gymorth i wneud y dewisiadau yma gallwch alw ein hymgynghorwyr hyfforddedig ar 08000 855 088. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd o'r wythnos. Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Penderfyniadau-Gyrfa.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Penderfyniadau-Gyrfa-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |