|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. PWYSAU ARHOLIADAUBy Lucy RowePan ddaw hi'n amser arholiadau, fe glywn son o hyd ei fod yn gyfnod anodd i fyfyrwyr, ac mae yna nifer o wefannau, rhaglenni teledu a thaflennu yno i'w helpu a'u cysuro nhw yn ystod yr adeg ddiamheuol o ingol hwn. Rydym i gyd yn cofio mor llethol gall y cyfan fod, p'un a ydych yn eistedd TASau, TGAU, Lefelau O neu Lefelau A ond yn aml, anghofiwn am yr effaith gall arholiadau eu cael ar athrawon; yn enwedig oherwydd fe dra-arglwyddiaethir dros y ddadl gyhoeddus gan ddisgwyliad canlyniadau tablau cynghrair i ysgolion a'r dyfalu parhaus fod arholiadau'n mynd yn haws. Fodd bynnag, mae'r pwysau ar athrawon erioed wedi bod yn fwy wrth iddyn nhw ymdrechu i helpu eu disgyblion yn academaidd tra'n cynnal cyfraddau perfformiad uchel yn eu hysgol - ceir pwyslais anferth ar ganlyniadau arholiadau yn fwy nac erioed. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac fe hoffech beth help a chyngor i'ch cael chi drwy'r cyfnod arholiadau, darllenwch ein taflen ynglŷn â phwysau arholiadau. Gallwch alw ein Llinell Gymorth gyfrinachol sydd am ddim hefyd a sgwrsio gydag un o'n cynghorwyr a chwnselwyr hyfforddedig ar 08000 855 088. Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Pwysau-Arholiadau.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Pwysau-Arholiadau-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |