|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. RHAID I BERTHNASAU GYDA RHIENI WELLA, DYWEDA PRIF WEITHREDWR TEACHER SUPPORT CYMRU WRTH GYFARFOD YN SAN STEFFANBy Joe Williams, translated by Steffan William
Yn y digwyddiad, cyflwynodd Teacher Support Cymru a’n partneriaid yn Parentline Plus ein hadroddiad ar y cyd, ‘Tu hwnt i glwyd yr ysgol: sut gall ysgolion a theuluoedd weithio’n well gyda’i gilydd’ (‘Beyond the school gate: how schools and families can work better together’), sydd yn dangos fod ymglymiad gan rieni yn y broses ddysgu yn hanfodol i les, ymddygiad, presenoldeb a chyrhaeddiad. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Diane Abbott, AS, a drefnwyd ar y cyd â’i menter, London Schools and the Black Child. Ymhlith y siaradwyr oedd Y Farwnes Verma, Gweinidog Cysgodol dros Blant, Ysgolion & Theuluoedd (Ceidwadwyr), Y Farwnes Walmsley, Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd (Democratiaid Rhyddfrydol), Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, a Jeremy Todd, Prif Weithredwr Parentline Plus. Dywedodd Julian: “Dylai rhieni ac athrawon fod ar yr un ochr. Mae rhieni’n teimlo’n gryf ac yn angerddol am addysg eu plant, ac mae athrawon yn teimlo’r un peth hefyd. Mae’n wych bod nifer o ysgolion a theuluoedd yn gweithio’n well gyda’i gilydd, ond lle na fyddan nhw, rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. “Fel y gwelwn o’r dystiolaeth a geir yn yr adroddiad, os na wnawn ni wella ein perthnasau, bydd ymddygiad a chyrhaeddiad ein disgyblion yn dioddef, a bydd lles rhieni ac athrawon yn parhau i gymryd ergyd hefyd. Mae’r adroddiad yn dangos bod:
Roedd yr argymhellion yn cynnwys:
Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Rhaid-i-berthnasau-gyda-rhieni-wella-dyweda-Prif-Weithredwr-Teacher-Support-Cymru-wrth-gyfarfod-yn-San-Steffan.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Rhaid-i-berthnasau-gyda-rhieni-wella-dyweda-Prif-Weithredwr-Teacher-Support-Cymru-wrth-gyfarfod-yn-San-Steffan-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |