Rhaid i berthnasau gyda rhieni wella, dyweda Prif Weithredwr Teacher Support Cymru wrth gyfarfod yn San Steffan

By Joe Williams, translated by Steffan William

P1000317_1.JPG
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â phwysigrwydd perthnasau cryfach rhwng athrawon a rhieni mewn cyfarfod o 150 yn San Steffan ar Ddydd Mercher, gan gynnwys darllenwyr Teacher Support Cymru Direct, rhieni a budd-ddeiliaid o holl rychwant addysg.

Yn y digwyddiad, cyflwynodd Teacher Support Cymru a’n partneriaid yn Parentline Plus ein hadroddiad ar y cyd, ‘Tu hwnt i glwyd yr ysgol: sut gall ysgolion a theuluoedd weithio’n well gyda’i gilydd’ (‘Beyond the school gate: how schools and families can work better together’), sydd yn dangos fod ymglymiad gan rieni yn y broses ddysgu yn hanfodol i les, ymddygiad, presenoldeb a chyrhaeddiad.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Diane Abbott, AS, a drefnwyd ar y cyd â’i menter, London Schools and the Black Child.

Ymhlith y siaradwyr oedd Y Farwnes Verma, Gweinidog Cysgodol dros Blant, Ysgolion & Theuluoedd (Ceidwadwyr), Y Farwnes Walmsley, Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd (Democratiaid Rhyddfrydol), Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, a Jeremy Todd, Prif Weithredwr Parentline Plus.

Dywedodd Julian: “Dylai rhieni ac athrawon fod ar yr un ochr. Mae rhieni’n teimlo’n gryf ac yn angerddol am addysg eu plant, ac mae athrawon yn teimlo’r un peth hefyd. Mae’n wych bod nifer o ysgolion a theuluoedd yn gweithio’n well gyda’i gilydd, ond lle na fyddan nhw, rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny.

“Fel y gwelwn o’r dystiolaeth a geir yn yr adroddiad, os na wnawn ni wella ein perthnasau, bydd ymddygiad a chyrhaeddiad ein disgyblion yn dioddef, a bydd lles rhieni ac athrawon yn parhau i gymryd ergyd hefyd.

Mae’r adroddiad yn dangos bod:

  • 64 y cant o athrawon wedi dweud eu bod wedi dioddef camdriniaeth eiriol neu gorfforol gan riant.
  • 62 y cant o rieni wedi dweud eu bod wedi cael eu trin mewn ffordd nawddoglyd, eu hymylu neu eu hanwybyddu wrth geisio ymdrin â mater yn ysgol eu plentyn.
  • Adroddwyd gan nifer llethol o athrawon bod y rhieni hynny sydd ddim yn ymwneud â, neu sydd â chanddynt berthynas wael neu anodd, yn cael effaith anferth ar eu lles a’u gwaith.
  • Teimlai rhieni ac athrawon, pe bai addysg plentyn yn dioddef o ganlyniad i fywyd cartref anodd, byddai rhyw fath o gymorth allanol fel Gweithiwr Cymorth Rhiant yn hanfodol.

Roedd yr argymhellion yn cynnwys:

  • Dylai pob ysgol ymgynghori â holl gymuned yr ysgol er mwyn creu Cytundeb Ysgol Gartref gyflawn.
  • Dylai pob ysgol gael mynediad addas at weithiwr cymorth rhieni gweladwy sydd wedi cael ei hyfforddi i ymdrin â rhychwant eang o faterion teuluol ac emosiynol ac sydd yn deall ei swyddogaeth a chylch gwaith yn llawn.
  • Rhaid i gyfathrebiadau fanylu sut gall rhieni helpu addysg eu plentyn yn y cartref. Rhaid i athrawon gael amser digonol i ymgymryd â’r gwaith hwn.
Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma.




 

SITE TOOLS