Sgorau bandio ysgolion wedi eu datgelu i Benaethiaid


school_gatesLarge_7.jpg

Cafodd ysgolion uwchradd yng Nghymru wybod eu sgôr bandio dros dro ar gyfer system newydd a gynlluniwyd i wella perfformiad ysgolion.

Bydd y system, a gyflwynwyd gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn llwyr weithredol erbyn mis Rhagfyr a'i fwriad yw categoreiddio ysgolion o fewn bandiau yn ddibynnol ar eu canlyniadau, presenoldeb ac amddifadiad cymdeithasol.

Cafodd Penaethiaid wybod am fand eu hysgol eu hunain yn ddiweddar, a dyweder taw hwn sy'n rhoi'r meincnod mwyaf eglur ynglŷn â pherfformiad ers tablau'r gynghrair i ysgolion, yn ôl adroddiad gan Wales Online.

Yn ôl y system, bydd ysgolion yn cael eu grwpio mewn un o bum band. Bydd Band Un yn cynnwys ysgolion sydd yn perfformio orau, gyda chynnydd da yn cael ei wneud ar draws pob mesur, tra bydd ysgolion Band Pump yn cael eu hystyried yn 'wan o gymharu ag eraill' ac angen cymorth ychwanegol.

Dadansoddwyd canlyniadau TGAU gan swyddogion o'r Uned Safonau Ysgolion (SSU), sydd newydd gael ei sefydlu, yn erbyn cefndir o hawl i brydiau ysgol am ddim er mwyn penderfynu ar fandiau. Cymharwyd y sgorau o un flwyddyn i'r llall, ac fe gafodd data presenoldeb ei gynnwys er mwyn 'adlewyrchu'r flaenoriaeth a roddir ar sicrhau bod dysgwyr yn yr ysgol'.

Dyweder bod cyflwyno'r system fandio i ysgolion yn gonglfaen cynllun pum mlynedd Mr Andrew i godi safon perfformiad mewn ysgolion Cymreig, ac eto mae'n debyg bod nifer o sefydliadau yn amheus o'r system newydd, all ddanfon ysgolion mewn bandiau is mewn i 'droell o ddirywiad'.

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Undeb yr Athrawon, NUT Cymru: "Mae'n mynd i fod yn reddfol ac yn hollol naturiol i unrhyw riant neu athro ddymuno bod eu plant yn mynd i ysgol mewn band uwch. Os oes patrwm o blant ac athrawon yn symud i ffwrdd o ysgol, gallai hynny ddiweddu mewn troell o ddirywiad na fyddai o ddiddordeb i unrhyw un. Gwyddom eisoes na fydd yna ariannu ychwanegol i'w roi i'r ysgolion hynny."

Gwnaeth Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr (ATL) Cymru, y sylw, pe bai'r argymhellion bandio yn cael eu defnyddio'n gywir, gallent fod o help i bob ysgol yng Nghymru.

Dywedodd: "Fel y gwelwyd yn Lloegr, dydy tablau cynghrair amrwd i ysgolion sy'n dangos canlyniadau TGAU, ddim yn dweud llawer wrthym ni ynglŷn â chyfoeth neu dlodi'r disgyblion. Drwy gynnwys data ar werth a phresenoldeb, gallai'r system fandio olygu bydd llwyddiannau'r ysgol mewn meysydd anodd yn derbyn cydnabyddiaeth. Mae'r argymhellion bandio i ysgolion hyn wedi eu canolbwyntio ar gynyddu safonau ar draws y bwrdd, nid ar yrru allan perfformwyr gwan."

I ddarllen mwy am y system bandio Ysgol newydd, cliciwch yma.






 

SITE TOOLS