From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

SUT GALL ATHRAWON AMDDIFFYN EU HUNAIN AR SAFLEOEDD RHWYDWEITHIO CYMDEITHASOL?

By Sandra Taylor

Yn rhinwedd fy swydd fel Rheolwr Datblygu i Teacher Support Cymru byddaf yn teithio ar draws Cymru ac yn cwrdd ag Athrawon yn aml i ledu'r gair ynglŷn â'r gwaith rydym yn ei gyflawni yn yr elusen.

Rwyf hefyd yn gwrando ar y pryderon a'r materion sy'n wynebu'r athrawon byddaf yn eu cwrdd ac ar un o fy ymweliadau diweddar ag ysgol gynradd yn Aberdâr roedd seibr-fwlio a rhwydweithio cymdeithasol yn bynciau llosg. Roedd gan athrawon ddiddordeb mawr i weld pa gamau gallent eu cymryd i amddiffyn eu hunain ar-lein, pa bethau ddylen nhw fod yn eu gwneud i sicrhau eu bod yn ddiogel a hefyd pa gyngor i roi i ddisgyblion pan fyddan nhw'n defnyddio safleoedd fel Facebook, Twitter neu MySpace.

Mae'n bwnc y buom yn ei drafod llawer yn Teacher Support Cymru. Mewn arolwg o athrawon a gynhaliwyd gan Teacher Support a Chymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr llynedd, dywedodd un ymhob saith o bobl a atebodd eu bod wedi dioddef seibr-fwlio.

Dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: "Rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o athrawon a ddaeth i gyswllt â ni ynglŷn â'u profiadau o fwlio gan ddisgyblion, rhieni a staff ysgol drwy gyfrwng technolegau newydd fel y rhyngrwyd a ffonau symudol yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Daeth hyn i'n sylw drwy gyfrwng ein gwasanaethau cymorth sydd am ddim ac yn gyfrinachol.

"Erbyn hyn, mae beth a fyddai wedi bod yn nodyn a basiwyd rhwng disgyblion yn y ‘stafell ddosbarth wedi ei bostio ar y rhyngrwyd er mwyn i bawb gael gweld."

Yn 2009 helpom yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd i ysgrifennu canllawiau newydd i fynd i'r afael â bwlio staff drwy gyfrwng technoleg fel ffonau symudol a'r rhyngrwyd ac fe allwch ei weld ar ein gwefan yma.

Byddai Teacher Support Cymru hefyd yn eich cynghori i beidio ag ymweld ag unrhyw safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ystod oriau gwaith, yn enwedig os ydych yn postio gwybodaeth newydd sydd yn cael ei ddiweddaru ar dudalen cartref y safleoedd. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gwrthod mynediad at y safleoedd hyn felly mae'n debyg y byddwch yn methu â chael mynediad atyn nhw ta beth hynny.

Am gymorth gyda seibr-fwlio, neu unrhyw fater arall, gallwch alwa ein Llinell Gymorth am ddim ar 0800 085 5800. Mae'r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Sut-gall-athrawon-amddiffyn-eu-hunain-ar-safleoedd-rhwydweithio-cymdeithasol.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Sut-gall-athrawon-amddiffyn-eu-hunain-ar-safleoedd-rhwydweithio-cymdeithasol-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!