From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

TARGEDAU A SAFONAU AFREALISTIG YN PERI STRAEN AR ATHRAWON


Yn ôl arolwg newydd, dylai athrawon sydd yn dymuno bod yn hapusach beidio ceisio â phlesio pawb a dylai fod ganddyn nhw fwy o lais wrth osod targedi. Mae ffigurau a ryddhawyd o Brifysgol Sir Caint, mewn cyswllt â'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon, yn dangos bod athrawon sydd a chanddynt ddyheadau gyrfaol a chyrchnod i ddysgu yn hapusach na'r sawl sydd yn wynebu disgwyliadau afrealistig.

"Roedd y rhan fwyaf o athrawon ond yn dioddef o fod wedi chwythu plwc os oedden nhw o dan straen mawr" dywedodd Julian Childs o Brifysgol Sir Caint, a gynhaliodd yr Astudiaeth Gwaith Lles a Straen ynghyd â Dr Joachim Stoeber. "Ag eto, roedd athrawon oedd yn credu bod pobl eraill yn disgwyl iddyn nhw fod yn berffaith, yn dioddef o chwythu plwc mawr a diffyg lles p'un a oedden nhw'n goddef gan straen uchel neu beidio."

Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, roedd gan athrawon oedd yn gosod safonau perfformiad uchel ar gyfer eu hunain, lefelau uwch o les. Mewn modd tebyg, roedd gan athrawon oedd yn cyrchu at wneud cynnydd yn eu datblygiad proffesiynol, lefelau uwch o ynni meddyliol ac yn fwy buddsoddedig yn eu gwaith na'r sawl oedd yn canolbwyntio ar berfformio'n well nac eraill.

Er hynny, mae'r astudiaeth o 197 o athrawon a gwblhawyd dwywaith yn ystod tri mis , yn ei gwneud hi'n glir y dylai athrawon osod safonau eu hunain, yn hytrach na chael eu gorfodi arnyn nhw gan gydweithwyr neu uwch reolwyr. A dweud y gwir, roedd gan athrawon oedd yn credu bod pobl eraill yn gofyn mwy na allan nhw ei roi, lefelau uwch o straen, iechyd drwg mewn perthynas â straen a chwythu plwc, yn ogystal â lefelau llai o les.

"Mae angen i athrawon drafod cyrchnodau clir a chyraeddadwy gyda'u rheolwyr" ychwanegodd Julian Childs. "Yna, mae angen i reolwyr sicrhau bod gan athrawon yr adnoddau i gyflawni'r nodau hyn ac yn gallu sgwrsio am eu dyletswyddau sydd yn gwrthdaro a sut y gellir blaenoriaethu'r rhain."

Mae safonau uwch yn debygol o fod o fud i fyfyrwyr hefyd, eglura Julian Childs:

"Mae athrawon yn pasio eu cyrchnodau i fyfyrwyr: byd athrawon sydd yn canolbwyntio ar ddysgu a datblygu eu sgiliau yn meithrin yr un cyrchnod yn eu myfyrwyr."

Caiff y farn yma ei adleisio gan y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon.

"Straen yw prif achos afiechyd mewn perhynas â gwaith yn sector addysg y DU" meddai Julian Stanley, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon. "Credwn fod athrawon rhagorol yn cael eu creu yn rhannol gan yr amgylcheddau fyddan nhw'n gweithio ynddyn nhw. Rhaid cefnogi athrawon yn llwyr a'u datblygu drwy gydol eu gyrfaoedd, ond yn hanfodol, ni ddylid eu gorweithio, fel y gallan nhw, ac felly drwy ymestyniad, ein plant, gyrraedd eu potensial llawn."



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Targedau-a-safonau-afrealistig-yn-peri-straen-ar-athrawon.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Targedau-a-safonau-afrealistig-yn-peri-straen-ar-athrawon-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!