|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. TEACHER SUPPORT CYMRU YN CROESAWU CYFARWYDDYD NEWYDD AR SEIBRFWLïOby Rhia Stankovic-JonesMae Teacher Support Cymru wedi croesawu cyhoeddiad diweddar y cyfarwyddyd ‘Cyberbullying: Supporting School Staff' ar gyfer Awdurdodau Lleol a chyrff llywodraethu. Ysgrifennwyd y ddogfen gan yr Adran Plant, Ysgolion a Teuluoedd (DCSF) gyda chymorth Teacher Support Cymru, prif undebau cyflogaeth ysgolion a sefydliadau proffesiynol. Canfuwyd mewn arolwg a gynhaliwyd y mis diwethaf gan Sefydliad yr Athrawon a Darlithwyr (ATL) a Teacher Support Cymru bod un ymhob saith o bobl a atebodd wedi profi seibrfwlïo. Dywedodd bron i un ymhob pump eu bod yn adnabod cydweithwyr oedd wedi dioddef ohono. Diffiniwyd Seibrfwlïo gan y DCSF fel, “defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), yn enwedig drwy gyfrwng ffonau teithiol a'r rhyngrwyd, yn fwriadol i beri gofid i rywun arall.” Er bod cyfran sylweddol - 44 y cant - wedi cael eu bwlio gan ddisgyblion, roedd yn frawychus bod 28 y cant wedi dweud taw rheolwr neu gydweithiwr oedd tu ôl i'r gamdriniaeth. Dywedodd athro ysgol cynradd yng Nghaerdydd wrthym yn ystod yr arolwg: “Cafodd bwlio gan ddefnyddio ffonau teithiol a chyfrifiaduron ei drafod yn y gwasanaeth ond gyda'r prifathro roedd yn achos o ‘gwnewch be dwi'n ddweud nid be' dwi'n ‘neud.' Cafodd pawb sy'n gweithio ‘ma ei e-bostio sawl gwaith gyda finnau a dau gydweithiwr arall wedi ein targedu a'n beirniadu'n gas iawn. Cefais e-byst o gyfeiriad ffug gyda sylwadau'r pennaeth wedi eu hamlygu mewn print bras wedi eu danfon ataf. Yn dilyn hynny, roedd y profiad o gerdded mewn i stafell yr athrawon amser cinio yn un o artaith fawr i fi.” Cafodd effaith seibrfwlïo ar y bobl sy'n ei ddioddef ei wneud yn amlwg hefyd, gyda 39 y cant yn dweud iddo leihau eu hyder a'u hunan-barch, a 25 y cant yn dweud iddo leihau eu heffeithiolrwydd fel athro neu athrawes a 6 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu gorfodi i fynd yn absennol oherwydd salwch a achoswyd gan stress. Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu fod angen gwella polisïau ysgol yn sylweddol, oherwydd dywedodd 62 y cant naill nad oedd gan eu hysgol bolisi ar seibrfwlïo neu nad oedden nhw'n ymwybodol o fodolaeth un. Dywedodd Prif Weithredwr newydd New Teacher Support Cymru, Julian Stanley: “Rydym yn croesawu cyhoeddiad y cyfarwyddyd yma ar y pwnc enbyd iawn yma ac mae'n bleser mawr i ni fod wedi gallu cyfrannu tuag at ei gynhyrchu. “Mae'r hyn a oedd unwaith ddim mwy na nodyn a basiwyd ymhlith disgyblion yn y stafell ddosbarth nawr wedi ei bostio ar y rhyngrwyd i bawb gael ei weld. Rhaid erlid seibrfwlïo er mwyn rhwystro niwed i les athrawon a disgyblion - ac i safonau addysg ar gyfer pawb. “Mae'n hanfodol bod ysgolion yn mabwysiadu polisïau effeithiol ac ystyrlon er mwyn mynd i'r afael â'r broblem a chael gwared â seibrfwlïo wrth ei wraidd - p'un a yw'n deillio o ddisgyblion, cydweithwyr neu arweinwyr ysgol.” Peidiwch anghofio ein bod yma i'ch cefnogi chi 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. Galwch ein Llinell Gymorth ar 0800 085 5088. Source information: Posted in: newyddion, Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Teacher-Support-Cymru-yn-croesawu-cyfarwyddyd-newydd-ar-Seibrfwl-o.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Teacher-Support-Cymru-yn-croesawu-cyfarwyddyd-newydd-ar-Seibrfwl-o-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |