Trin disgyblion aflonyddgar

by Joe Williams

Daeth y Mesur Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu (ASCL Bill) i Senedd San Steffan llynedd ac mae'n cynnwys newidiadau deddfwriaethol allai effeithio ar ataliaeth gan athrawon a'r defnydd o rym. Mae'r Mesur ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth, ac mae disgwyl i Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru bleidleisio ar p'un a fydd mewn grym yng Nghymru ai peidio, neu'n cynnig pwerau newydd ar chwilio am alcohol, cyffuriau ac eitemau wedi'u dwyn mewn ysgolion.

Pe bai'r mesur yn cael ei gymeradwyo, gallai effeithio'n fawr ar y ffordd mae athrawon yn trin disgyblion aflonyddgar oherwydd byddai'n ymestyn y pŵer sydd gan athrawon a staff mewn ysgolion a sefydliadau Addysg Bellach i chwilio disgyblion (neu fyfyrwyr) am arfau, ac fe fyddai felly hefyd yn eu galluogi i chwilio am gyffuriau anghyfreithlon, alcohol ac eitemau wedi'u dwyn. Fodd bynnag, dydy'r ddeddfwriaeth ddim yn gorfodi unrhyw ddyletswydd i ymgymryd â chwiliad. Bydd y mesur hefyd yn gofyn i ysgolion gymryd rhan mewn partneriaethau gwella ymddygiad gyda'i gilydd er mwyn gwella ymddygiad a phresenoldeb. Ar hyn o bryd mae 98 y cant o ysgolion uwchradd a gynhelir gan grant a 94 y cant o academïau yn wirfoddol yn aelodau o bartneriaethau ymddygiad ysgolion.

Wrth ymateb i'r Mesur arfaethedig, dywedodd Prif Weithredwr Teacher Support Cymru, Julian Stanley: "Yn ein harolwg a gynhaliwyd llynedd, roedd bron i hanner o'r bobl a ymatebodd i'n holiadur yn anghytuno gyda chyflwyno chwiliadau gan athrawon a dywedodd dros ddau ymhob tri na fydden nhw'n teimlo'n ddiogel wrth gynnal y fath chwiliad. Wrth i ymddygiad disgyblion waethygu fel problem gynyddol mewn nifer o ysgolion mae' n holl bwysig bod athrawon a holl staff ysgol yn teimlo'n ddiogelo fewn eu hamgylchedd gwaith”

Os yw'r pwerau chwilio newydd yn achosi pryder i chi neu os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Mesur, cymerwch olwg ar ein ffeithlen: Gorolwg o'r Mesur Sgiliau, Plant a Dysgu.

Gall disgyblion ddangos ymddygiad aflonyddgar mewn sawl ffordd arall sy'r un mor anodd ei drin. Boed yn ymddygiad ymosodol neu'n gam-drin ar lafar, mae'n bwysig bod athrawon a staff yn ymwybodol o'u hawliau.

Er dylai athrawon a staff ddefnyddio grym rhesymol yn unig pan fydd popeth arall wedi methu, dylai ysgolion barhau i gynnig cyfarwyddyd clir a chywir i'w staff ar y polisi atal fel na all fod unrhyw ddryswch.

Dylai fod gan eich ysgol bolisi ar ddefnyddio grym. Yn ôl y Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, gall staff ysgol ddefnyddio "grym sydd yn rhesymol yn ôl yr amgylchiadau i rwystro disgybl rhag gwneud na pharhau i wneud y unrhyw un o'r pethau canlynol:

  • Cyflawni unrhyw drosedd (neu, i ddisgybl o dan oed cyfrifoldeb troseddol, yr hyn fyddai'n drosedd i ddisgybl hŷn).
  • Peri niwed personol i unrhyw berson (gan gynnwys y disgybl ei hun).
  • Peri niwed i eiddo unrhyw berson (gan gynnwys y disgybl ei hun).
  • Peryglu cynhaliaeth trefn dda a disgyblaeth yn yr ysgol, ac ymhlith unrhyw ddisgyblion sydd yn cael eu haddysg yn yr ysgol, p'un a yw yn ystod sesiwn dysgu neu fel arall.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â'ch hawliau cyfreithiol i ddefnyddio grym rhesymol, byddwch cystal â chymryd golwg ar ein ffeithlen: Beth yw fy hawliau cyfreithiol wrth ddefnyddio grym rhesymol?

Os oes angen unrhyw help pellach neu gyngor ar drin ymddygiad aflonyddgar arnoch chi, gallwch alw ein Llinell Gymorth gyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd ar 08000 855 088.





 

SITE TOOLS