Ysgolion Cymraeg ar gau o achos streic athrawon UCAC


Bydd mwy na 300 o ysgolion yn cau yn rhannol neu'n llwyr ar Ddydd Mercher Hydref 12 wrth i aelodau undeb yr athrawon Cymraeg, UCAC, streicio oherwydd cynlluniau i newid pensiynau.

Dywed yr undeb, sy'n cynrychioli tua 5,000 o aelodau staff, bod 89 y cant o'r sawl a gymerodd rhan mewn pleidlais ymhlith yr aelodau, wedi pleidleisio dros gynnal streic un dydd.

Beirniadwyd y cynnig gan y Llywodraeth yn hallt gan nifer o undebau a'u haelodau wedi iddo gael ei ddatgelu bydd yn rhaid i staff weithio mwy o oriau a thalu mwy bob mis tuag at eu pensiynau o dan year argymhellion newydd, yn ôl Newyddion y BBC

Dywedodd Prif Weithredwr UCAC, Elaine Edwards: "Mae argymhellion y Llywodraeth yn gwbl ddiangen ac yn hollol annheg. Mae gofyn i athrawon a darlithwyr dalu mwy bob mis, i weithio hyd nes eu bod yn 68 a hyd yn oed wedi hynny, i dderbyn taliadau llai ar ôl ymddeol yn dangos diffyg dealltwriaeth ynglŷn â natur y proffesiwn a diffyg parch tuag at addysgwyr."

"Y diffyg ariannol anferth a grëwyd gan y bancwyr yw'r broblem - ond wnaiff y llywodraeth ddim cyfaddef hynny. Dydy streicio ddim yn rhywbeth sy'n hawdd i athrawon ei wneud. Rydym oll yn rhy ymwybodol o'r effaith ar ddisgyblion a'u rhieni."

Mae UCAC wedi amcangyfrif bydd tua 3,500 o bobl yn streicio ar Hydref 12, ar draws 620 ysgolion yng Nghymru. Rhybuddiodd yr undeb y gallai'r streic amharu ar lond llaw o golegau addysg bellach a phrifysgolion hefyd.

Mae'r undeb hefyd wedi mynegi pryderon y gallai'r ymosodiad ar bensiynau gael effaith negyddol ar safonau addysgol, drwy wneud i addysgu ymddangos fel 'proffesiwn llai deniadol' i bobl o'r tu allan.

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr tuag at gael perthynas o ymglymu'n ddiffuant gyda'r undebau. Mae gyda ni llawer i'w drafod gan gynnwys yr argymhellion sydd ar y ford. Bu trafodaethau canolog yn mynd yn eu blaenau ers misoedd, ac mae'r llywodraeth wedi llwyr ymrwymo tuag at weithio gyda'r undebau i gyflawni'r ad-drefniadau sydd eu hangen."

"Mae'n beth eithriadol o siomedig bod nifer fach o athrawon o undeb UCAC yn cynllunio i golli diwrnod o dâl a mynd ar streic tra bod trafodaethau yn parhau i gael eu cynnal."

Os ydych chi'n ystyried streicio ac yn dymuno cael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch undeb.





 

SITE TOOLS