From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

FACEBOOK NEILLTUAETH

By Sandra Taylor

Roedd hi'n brofiad arbennig i allu dod a threulio'r dydd yn Eisteddfod yr Urdd, yn Llanerchaeron, yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr haul yn gwenu ac roedd yn bleser i gael bod yno a phrofi'r awyrgylch hynod o gadarnhaol. Fel dysgwr Cymraeg sydd newydd ddechrau, roeddwn wedi fy mhlesio fod pobl mor amyneddgar â fi, ac fe sylweddolais y gallwn ddeall mwy o Gymraeg na fedrwn i ei siarad, felly rwy'n symud ymlaen.

Mwynheais wylio Dawnsio Gwerin cyn troi fy sylw at y dawnsio disgo, roedd hi fel rhywbeth allan o Britain's Got Talent yn y Pafiliwn! Roedd ynni'r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yn wych ac roedd hi'n amlwg eu bod wedi ymarfer a bod hynny wedi bo o fu mawr iddyn nhw!

Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â rhai athrawon oed yn ymweld â stondin CyngACC a thrafod llawer o faterion eu bod nhw a llawer o athrawon o amgylch y wlad yn wynebu o fewn eu hysgolion. Un mater ddaeth i fyny dro ar ôl tro ac sydd yn achosi ystod o broblemau ar gyfer disgyblion acathrawon yw preifatrwydd Facebook. Roeddwn yn gallu sôn wrthyn nhw am y ffeithlenni sydd gyda ni ar wefan Teacher Support Cymru www.teachersupport.info ynglŷn â defnyddio Facebook.

Gall y ffeithlen canlynol fod o ddefnydd i chi: Facebook-Privacy Settings



Source information:
Posted in: newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/facebook-neilltuaeth.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/facebook-neilltuaeth-printer.php

Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!