From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.

TEACHER SUPPORT CYMRU I LAWNSIO PARTNERIAETH AG AMCAN


Ceisio delio â phobl anodd, a chael problemau wrth wneud, ydy un o’r prif rhesymau pam mae athrawon yn cysylltu â Teacher Support Cymru. Fodd bynnag, fel canlyniad o bartneriaeth newydd rhwng yr elusen a’r darparwyr hyfforddiant AMCAN Consultancy and Training, bydd gan athrawon yng Nghymru’r cyfle i ddysgu’n union sut i ddelio gyda’r rhiant anodd hwnnw sy’n achosi cymaint o benbleth, yn ogystal â sut i ddelio gydag ystod o faterion tebyg.

Mae’r gweithdai a’r cyrsiau a gynigir yn trafod amrediad o bynciau sy’n anelu at gefnogi athrawon yn eu bywydau proffesiynnol a phreifat. Yn ogystal, maent yn rhedeg law yn llaw efo’r gwasanaethau sydd eisioes ar gael gan Teacher Support Cymru. Bydd AMCAN Consultancy and Training, a sefydlwyd gan gyn-Pennaeth Gynorthwyol Andy McCann, yn darparu hwyluswyr profiadol a phroffesiynol i arwain y gweithdai.

Fel un o’r hwyluswyr, mae Andy mewn sefyllfa unigryw er mwyn helpu athrawon sy’n dioddef trawma neu profiadau sy’n newid bywyd; dioddefodd strôc ei hunan tra’n addysgu mewn Cardinal Newman High yn Ne Cymru. Yn dilyn ei brofiad, sefydlodd Andy AMCAN Consultancy and Training i weithio’n flaengar er mwyn cynorthwyo athrawon i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli straen, llwyth gwaith, a disgyblion heriol. Mae pynicau’r gweithdai yn amrywio o “ofalu am y llais” i “reoli gwrthdaro a myfyrdod”.

Mae atal straen yn agwedd pwysig o waith Teacher Support Cymru a bydd AMCAN, yn garedig iawn, yn rhoddi canran o’r elw i’r elusen i gyfrannu at y gost o ddarparu gwasanaethau dwyieithog, cyfrinachol, am ddim i bob athro yng Nghymru.

Mae’r cyrsiau a’r gweithdai dwyieithog ar gael ar gyfer ysgolion unigol, clystyrau o ysgolion, canghennau undeb, prifysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Gellir teilwra pob gweithdy i ateb gofynion y mynychwyr.

Dywedodd Patrick Nash, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru:

‘Mae’r partneriaeth gydag AMCAN Consultancy and Training yn gyfle unigryw ar gyfer ein dau sefydliad i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau athrawon yng Nghymru, ac mae’n wych ein bod ni’n gallu cynnig gweithdai trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.’

Am wybodaeth bellach, ffoniwch 01443 827600 os gwelwch yn dda.

Diwedd

Nodiadau

  • Cysylltwch: Jessica Davies, Rheolwraig Cyfathrebu a Chodi Arian, Teacher Support Cymru : 01443 827600.
  • Cysylltwch: Andy McCann, Cyfarwyddwr, AMCAN Consultancy and Training : 01443 827600 neu andy@amcanct.co.uk
  • Elusen annibynnol a chenedlaethol sy’n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i athrawon a darlithwyr (sy’n hyfforddi, sy’n gweithio ar hyn o bryd neu sydd wedi ymddeol) yng Nghymru ydy Teacher Support Cymru. Gwefan: www.teachersupportcymru.info
  • Mae Teacher Support Line Cymru, ar 08000 855 088, yn cynnig gwybodaeth ymarferol, cefnogaeth a chwnsel dros y ffôn i bob athro neu darlithiwr yng Nghymru. Mae’i staff o gwnsleriaid profiadol, sydd wedi arbenigo yn y maes addysg, yn darparu gwasanaeth 24 awr, am ddim ac yn hollol gyfrinachol.
  • Teacher Support Online Cymru ydy gwasanaeth hyfforddi ebost ar gyfer athrawon sydd ar gael trwy www.teachersupportcymru.info


Source information:
Posted in: newyddion, features,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/partneriaeth-ag-AMCAN.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/partneriaeth-ag-AMCAN-printer.php

Copyright ©2010 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!