Teacher Support Cymru i lawnsio partneriaeth ag AMCANCeisio delio â phobl anodd, a chael problemau wrth wneud, ydy un o’r prif rhesymau pam mae athrawon yn cysylltu â Teacher Support Cymru. Fodd bynnag, fel canlyniad o bartneriaeth newydd rhwng yr elusen a’r darparwyr hyfforddiant AMCAN Consultancy and Training, bydd gan athrawon yng Nghymru’r cyfle i ddysgu’n union sut i ddelio gyda’r rhiant anodd hwnnw sy’n achosi cymaint o benbleth, yn ogystal â sut i ddelio gydag ystod o faterion tebyg. Mae’r gweithdai a’r cyrsiau a gynigir yn trafod amrediad o bynciau sy’n anelu at gefnogi athrawon yn eu bywydau proffesiynnol a phreifat. Yn ogystal, maent yn rhedeg law yn llaw efo’r gwasanaethau sydd eisioes ar gael gan Teacher Support Cymru. Bydd AMCAN Consultancy and Training, a sefydlwyd gan gyn-Pennaeth Gynorthwyol Andy McCann, yn darparu hwyluswyr profiadol a phroffesiynol i arwain y gweithdai. Fel un o’r hwyluswyr, mae Andy mewn sefyllfa unigryw er mwyn helpu athrawon sy’n dioddef trawma neu profiadau sy’n newid bywyd; dioddefodd strôc ei hunan tra’n addysgu mewn Cardinal Newman High yn Ne Cymru. Yn dilyn ei brofiad, sefydlodd Andy AMCAN Consultancy and Training i weithio’n flaengar er mwyn cynorthwyo athrawon i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli straen, llwyth gwaith, a disgyblion heriol. Mae pynicau’r gweithdai yn amrywio o “ofalu am y llais” i “reoli gwrthdaro a myfyrdod”. Mae atal straen yn agwedd pwysig o waith Teacher Support Cymru a bydd AMCAN, yn garedig iawn, yn rhoddi canran o’r elw i’r elusen i gyfrannu at y gost o ddarparu gwasanaethau dwyieithog, cyfrinachol, am ddim i bob athro yng Nghymru. Mae’r cyrsiau a’r gweithdai dwyieithog ar gael ar gyfer ysgolion unigol, clystyrau o ysgolion, canghennau undeb, prifysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Gellir teilwra pob gweithdy i ateb gofynion y mynychwyr. Dywedodd Patrick Nash, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: ‘Mae’r partneriaeth gydag AMCAN Consultancy and Training yn gyfle unigryw ar gyfer ein dau sefydliad i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau athrawon yng Nghymru, ac mae’n wych ein bod ni’n gallu cynnig gweithdai trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.’ Am wybodaeth bellach, ffoniwch 01443 827600 os gwelwch yn dda. Diwedd Nodiadau
|
Tanysgrifiwch am ein e-gylchlythyr rheolaidd, am ddim ac sydd wedi ymrwymo i les a iechyd athrawon. DECHRAU YMA!![]() ![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.

